John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd
Fe fydd pwerau newydd sydd ar fin cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru’n cael eu defnyddio i godi safonau adeiladu, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths.

O 31 Rhagfyr 2011 bydd y cyfrifoldeb dros reoliadau adeiladu yn cael eu trosglwyddo’n gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru. 

Wrth groesawu’r pwerau newydd, dywedodd y Gweinidog mai un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru fydd gwella effeithlonrwydd ynni mewn tai newydd.

 “Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon, a symud i safonau adeiladu fydd yn cynnig tai sy’n defnyddio ynni yn llawer mwy effeithiol,” meddai.

“Rydyn ni wedi gwneud ymdrechion sylweddol eisoes i gyflawni’r amcanion hyn trwy ein polisïau cynllunio; fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod mai rheoliadau adeiladu fydd un o’r prif ffyrdd o’n helpu i gyrraedd ein hamcanion.  

“Drwy fod gan Gymru gyfrifoldeb dros bennu ei rheoliadau adeiladu ei hun, byddwn yn gweithio i wneud newidiadau fydd yn ein galluogi i gynnig gwelliant o 55% ar ofynion 2006 ar gyfer cartrefi newydd. 

“Bydd hyn nid yn unig yn helpu inni leihau allyriadau carbon, ond hefyd yn golygu cartrefi newydd sy’n llawer cynhesach ac yn rhatach i’w cynhesu.” 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i drafod ei chynigion am safonau uwch mewn adeiladau.  Mae disgwyl i Weinidog yr Amgylchedd ymgynghori ar y cynigion hyn ym mis Mawrth 2012.