Map yn dangos lleoliad Samoa yn y Môr Tawel (o wefan Wikipedia)
Ni bydd yfory’n bod yn Samoa, y wlad fach yn ne’r Môr Tawel, sy’n neidio diwrnod yn ei hamser.

Pan fydd y cloc yn taro hanner nos heno, fe fydd hi’n ddydd Sadwrn, Rhagfyr 31 – diwrnod ola’r flwyddyn – i’r 186,000 o drigolion y wlad.

Mae’r llywodraeth wedi penderfynu croesi’r llinell ddyddiad ryngwladol er mwyn cysoni ei hun â gwledydd eraill cyfagos yn y Môr Tawel.

Daw’r naid hon mewn amser 119 o flynyddoedd ar ôl i rai masnachwyr o’r Unol Daleithiau berswadio’r awdurdodau yn Samoa i gadw’r un amser ag America er mwyn hwyluso masnach gyda Califfornia.

Ond mae’r trefniant yma wedi achosi problemau dros y blynyddoedd diwethaf gan ei fod yn rhoi Samoa bron i ddiwrnod cyfan ar ôl Awstralia a Seland Newydd, sy’n bartneriaid masnachol allweddol iddi.