Syrthiodd prisiau tai 0.4% yng Nghymru ym mis Rhagfyr – y cwymp mwyaf ar draws Prydain gyfan, yn ôl y cwmni dadansoddi gwerth eiddo, Hometrack.

Datgelodd y cwmni fod prisiau tai wedi syrthio yn bron i 80% o’r codau post ar draws Cymru a Lloegr yn ystod 2011.

Heb y cynnydd mewn prisiau tai yn Llundain, oedd wedi ei hybu’n bennaf gan brynwyr o dramor, fe fyddai’n gostyngiad cyffredinol hyd yn oed yn fwy.

Syrthiodd prisiau tai 2.1% ar draws Cymru a Lloegr yn 2011- cwymp mwy na’r 1.6% yn 2010. Ond cynyddodd prisiau 5%  mewn rhai rhannau o Lundain yn ystod 2011.

Syrthiodd prisiau yn 78% o’r codau post ar draws Cymru a Lloegr yn ystod 2011. Dyw’r union ystadegau fesul ardal ddim ar gael eto.

Dywedodd Hometrack fod disgwyl i brisiau syrthio 3% arall ar draws Cymru a Lloegr erbyn Rhagfyr 2012, ond y bydd hynny’n hwb i landlordiaid sy’n rhentu tai.

“Mae cryfder y farchnad dai yn Llundain wedi ystumio’r darlun cenedlaethol,” meddai Richard Donnell, pennaeth ymchwil Hometrack.

Roedd cynnydd 14% yn nifer y prynwyr yn ystod misoedd cyntaf 2011, ond cwymp o 11% yn ail hanner y flwyddyn yn dilyn pryder newydd am gryfder yr economi.

Syrthiodd prisiau tai ym mhob ardal ym mis Rhagfyr. Y cyfartaledd oedd cwymp o 0.2% ond syrthiodd prisiau 0.4% yng Nghymru.

“Fe fydd prisiau yn syrthio eto, tua 3% yn 2012,” meddai Richard Donnell. “Yn y cyfamser fe fydd mwy o alw am rentu tai ac mae disgwyl cynnydd o 2% mewn pris rent yn y 12 mis nesaf.”