Mae cartrefi sy’n cael eu prynu gan bobl sy’n prynu am y tro cyntaf yn fwy fforddiadwy erbyn hyn nag ar unrhyw adeg ers 2003, yn ôl arolwg gan y Halifax.

Yn ôl yr arolwg mae 83% o’r cartrefi yng Nghymru bellach yn cael eu cyfri’n rhai fforddiadwy i bobol sy’n prynu am y tro cyntaf, o’i gymharu â 17% sydd ddim.

Hefyd mae oed cyfartalog rhai sy’n prynu am y tro cyntaf yng Nghymru wedi gostwng i 28, o’i gymharu â 30 ar draws Prydain, a 32 yn Llundain.

Dim ond 44% o’r cartrefi ar draws Prydain gyfan sy’n cael eu hystyried yn rhai fforddiadwy i brynwyr tro cyntaf. Ond dyna’r lefel uchaf ers wyth mlynedd, yn ôl Adolygiad Prynwyr Tro Cyntaf cwmni Halifax.

Roedd 100% o gartrefi gogledd ddwyrain Lloegr yn cael eu hystyried yn fforddiadwy i brynwyr tro cyntaf, ond roedd llai nag 1% o gartrefi yn Llundain yn disgyn i’r categori hwnnw.

Mae’r arolygwyr yn ystyried tŷ yn fforddiadwy pan fydd yn costio llai na phedair gwaith y cyflog blynyddol arferol.

Pan oedd y farchnad dai ar ei hanterth yn 2007 dim ond 5% o’r cartrefi ar draws Prydain oedd yn cael eu hystyried yn fforddiadwy.

Yn ôl yr arolwg fe fydd newydd ddyfodiaid i’r farchnad dai bellach yn gwario chwarter eu hincwm ar eu morgais bob mis, o’i gymharu â hanner yn 2007.

Er gwaetha’r canfyddiad cadarnhaol am brisiau tai i brynwyr tro cyntaf, roedd nifer y prynwyr tro cyntaf wedi syrthio i’w lefel isaf erioed, yn ôl yr arolwg.

Dim ond 187,000 o brynwyr tro cyntaf oedd yn 2011, y lefel isaf ers dechrau cofnodion yn 1974.

Yn 2007 roedd y prynwr tro cyntaf cyfartalog yn talu blaendal o £17,482 yn unig ar ei forgais. Erbyn hyn mae hynny wedi cynyddu i £27,032.