Michael Dye
Mae dyn oedd wedi cyfaddef i ddynladdiad cefnogwr tîm pêl-droed Cymru wedi ei garcharu am dair blynedd.

Cafodd Ian Mytton, 41 oed, ei ddedfrydu heddiw am ymosod ar Michael Dye  tu allan i Stadiwm Wembley toc cyn dechrau gêm Cymru yn erbyn Lloegr ar 6 Medi.

Fe fydd Mytton yn treulio o leiaf 18 mis yn y carchar ac mae hefyd wedi ei wahardd rhag mynychu gêmau pêl-droed am chwe blynedd.

Cafodd Michael Dye, oedd yn gefnogwr brwd i glwb Pêl-Droed Dinas Caerdydd, anaf difrifol i’w ben. Roedd ffilm teledu cylch cyfyng yn dangos Mytton yn cerdded tuag at Michael Dye tu allan i’r stadiwm gan roi pwniad iddo yn ei ben ac yna’n cerdded i ffwrdd, tua 25 munud cyn  i’r gem bel-droed ddechrau.  Cafodd Michael Dye ei gludo i Ysbyty Northwick Park yn Llundain tua 7.20pm ond bu farw’n ddiweddarach.

Roedd Ian Mytton o Redditch yn Swydd Gaerwrangon wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad yn yr Old Bailey fis diwethaf.

Dywedodd y barnwr Anthony Morris bod yr achos yn “drasiedi” i deulu a ffrindiau Michael Dye, ac nad oedd rheswm am yr ymosodiad.

Ond roedd yn cydnabod bod Mytton wedi mynd at yr heddlu o’i wirfodd a’i fod bellach yn dioddef o iselder.

Roedd Michael Dye, yn dad i dri o blant ac yn gweithio i gyngor Caerdydd.

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen yn y llys, dywedodd ei wraig Nathalie Dye: “Mae rhan ohono’i wedi marw gyda Mike. Yr unig beth i edrych ymlaen ato yw cael bod gyda fy ngŵr unwaith eto.

Ychwanegodd bod ei gŵr yn “arwr” i’w plant.