Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cydnabod y pwysau arbennig sydd ar aelodau o luoedd arfog y DU wrth iddo  recordio neges Nadolig ar gyfer y rhai sy’n gwasanaethu ym mhedwar ban byd.

Bydd y neges yn cael ei darlledu ar Ddydd Nadolig i aelodau’r lluoedd sy’n gwasanaethu mewn llefydd fel Ynysoedd Falkland, Cyprus, yr Almaen, Brunei ac Affganistan, o stiwdios BFBS yn Camp Bastion.

Mewn neges gafodd ei recordio ar gyfer Gwasanaeth Darlledu’r Lluoedd Arfog (BFBS), diolchodd Carwyn Jones  i’r lluoedd am eu gwaith.

Dywedodd y Prif Weinidog:  “Mae’r Nadolig yn amser ar gyfer y teulu a’r tylwyth, yn amser inni ddod ynghyd i fwynhau cwmni ein gilydd. Yn achos y lluoedd arfog, mae’r amser hwn o’r flwyddyn yn gallu bod yn anodd iawn, yn arbennig i’r rhai ohonoch sydd ar wasgar ym mhedwar ban byd.

“Mae’r pethau y gofynnir i chi a’ch teuluoedd eu gwneud yn unigryw, a natur eich swydd yn wahanol i unrhyw fath arall o waith.

“Mae pob un ohonoch yn gorfod gwneud rhywfaint o aberth bersonol bob dydd.  Rydyn ni i gyd yn cydnabod y straen a’r pwysau sydd arnoch chi a’ch teuluoedd, a mawr yw ein dyled am hynny. Mae hyn yn bendant yn wir ar yr adeg hon o’r flwyddyn pan fydd cymaint ohonoch ar ddyletswydd ledled y byd.”

Ychwanegodd bod Cymru yn dangos ei gwerthfawrogiad trwy wella’r cymorth ar gyfer cymuned y lluoedd arfog.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei chefnogaeth ar gyfer y rheini ohonoch sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, yn ogystal â chyn-filwyr, gan wella’r cymorth mewn meysydd allweddol fel gofal iechyd, tai ac addysg,” meddai.

“Rydw i am wneud yn siŵr eich bod chi a’ch teuluoedd yn cael pob cymorth posib heb fod o dan unrhyw anfantais – dyna’r lleiaf rydych chi’n ei haeddu. Rydw i am anfon fy nghyfarchion ar yr adeg arbennig hon o’r flwyddyn.  Rydyn ni’n meddwl amdanoch chi.”