Craig Bellamy mewn crys Cymru
Mae cymdeithasau pêl-droed Cymru ac Iwerddon wedi dweud eu bod nhw’n siomedig yn sgil adroddiadau y bydd FIFA yn ymyrryd ag anghytundeb ariannol y Cwpan Celtaidd.
Mae’r cymdeithasau yn gobeithio lleihau’r tâl yr oedd Cymdeithas Bêl-droed yr Alban wedi gofyn amdano er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Roedd adroddiadau mewn papur newydd ddydd Sul fod Cymdeithas Bêl-droed yr Alban ar fin riportio Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon i FIFA.
Maen nhw’n honni nad yw Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon wedi talu £1.2 miliwn mewn refeniw sy’n ddyledus iddyn nhw yn dilyn y bencampwriaeth yn Nulyn.
Ond dywedodd cymdeithasau pêl-droed Iwerddon a Chymru eu bod nhw wedi bod yn trafod â Chymdeithas Pêl-droed yr Alban yn y gobaith o leihau’r ffi sy’n ddaliadwy.
Digwyddodd y gystadleuaeth agoriadol yn Stadiwm Aviva ym mis Chwefror a Mai, ac fe enillodd tîm pêl-droed Gweriniaeth Iwerddon y tlws gan guro’r Alban 1-0 yn y gêm olaf.
Mae disgwyl y bydd yr ail gystadleuaeth yn cael ei gynnal yng Nghymru yn 2013 ond does yr un gymdeithas wedi ymroi i hynny eto.
Roedd torfeydd o ychydig gannoedd yn unig mewn rhai gemau, ac roedd rhai cefnogwyr gwyno am bris tocynnau.
‘Cyfartal’
“Cafodd y bencampwriaeth ei sefydlu gan Gymdeithas Pêl-droed Iwerddon, Cymdeithas Pêl-droed Cymru a Chymdeithas Pêl-droed yr Alban yn 2010,” meddai cymdeithasau pêl-droed Iwerddon a Chymru mewn datganiad ar y cyd.
“Y cytundeb oedd y byddai costau ac elw yn cael ei rannu a Chymdeithas Pêl-droed yr Alban yn cael ffi am gymryd rhan.
“Digwyddodd y gystadleuaeth yn Nulyn ym mis Chwefror a Mai ac roedd wedi gwneud elw yn seiliedig ar hawliau darlledu, nawdd a gwerthu tocynnau.
“Yn dilyn y gystadleuaeth mae cymdeithasau pêl-droed Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Chymru wedi bod yn trafod lleihau ffi Cymdeithas Bêl-droed yr Alban.
“Y nod fyddai sicrhau bod pob un o’r cymdeithasau yn cael cyfran fwy cyfartal o’r elw yn seiliedig ar yr hinsawdd economaidd a gwerthiant tocynnau yn y gystadleuaeth.
“Mae’n siomedig fod y mater yma wedi dod i sylw cyhoeddus ar adeg pan oedd y pedwar cymdeithas yn ceisio dod i gytundeb.
“Ni fydd cymdeithasau pêl-droed Iwerddon na Chymdeithas Pêl-droed Cymru yn gwneud unrhyw sylw pellach er mwyn rhoi cyfle teilwng i’r trafodaethau yna ddigwydd.”
Gwrthododd Cymdeithas Bêl-droed yr Alban gynnig sylw ar y mater ond dywedodd fod “trafodaethau preifat yn parhau”.