Aberystwyth 1–2 Llanelli
Cafodd Llanelli fuddugoliaeth bwysig er mwyn aros ar y brig yn erbyn Aberystwyth yng Nghoedlan y Parc nos Wener.
Daeth goliau’r gêm i gyd mewn cyfnod o bum munud hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf. Antonio Corbisiero sgoriodd y gyntaf i’w rwyd ei hun wedi 22 munud i roi Aber ar y blaen.
Ond roedd Llanelli yn gyfartal ddau funud yn ddiweddarach diolch i beniad Chris Venables o gic gornel Craig Williams.
Ac roedd Llanelli ar y blaen wedi 27 munud diolch i bedwaredd gôl ar bymtheg Rhys Griffiths o’r tymor yn dilyn dyfalbarhad Williams yn y gwaith creu unwaith eto.
Pwysodd Aber am gôl i unioni’r sgôr yn yr ail hanner a gwastraffodd Wyn Thomas eu cyfle gorau yn yr amser a ganiateir am anafiadau pan beniodd heibio’r postyn.
Mae’r canlyniad yn cadw Llanelli ar y brig tra mae problemau Aberystwyth tua’r gwaelodion yn parhau, maen nhw’n y degfed safle ddau bwynt yn unig uwch ben safleoedd y gwymp.
Y Drenewydd 1–3 Airbus
Sicrhaodd Airbus eu pedwaredd buddugoliaeth mewn pum gêm wrth drechu’r Drenewydd oddi cartref ym Mharc Latham brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Ian Sheridan yr ymwelwyr ar ben ffordd gyda’i ddegfed gôl o’r tymor wedi 18 munud cyn i Mike Hayes ddyblu’r fantais gyda’i seithfed gôl yntau o’r tymor saith munud yn ddiweddarach.
Yna, sicrhaodd Mark Allen y tri phwynt i Airbus gyda’r drydedd gôl yn gynnar yn yr ail hanner, a gôl gysur yn unig oedd ymdrech Zac Evans o’r smotyn i’r Drenewydd yn y munudau olaf.
Mae Airbus yn aros yn y seithfed safle er gwaethaf y fuddugoliaeth ond dim ond dau bwynt sydd yn eu gwahanu nhw a Phrestatyn yn y chweched safle bellach. Mae’r Drenewydd ar y llaw arall yn aros yn ail o’r gwaelod.
Port Talbot 1–2 Bangor
Llwyddodd Bangor i gipio’r tri phwynt yn erbyn Port Talbot yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn er gwaethaf y ffaith iddynt chwarae rhan helaeth o’r gêm gyda deg dyn.
Gwelodd Michael Walsh y cerdyn coch wedi dim ond deg munud ond Bangor a aeth ar y blaen serch hynny wedi 27 munud, Les Davies gyda’i ddegfed gôl o’r tymor.
Ac roedd yr ymwelwyr ym mhellach ar y blaen bedwar munud yn ddiweddarach wedi i Kyle Wilson rwydo ail y Dinasyddion.
Ond roedd Port Talbot yn ôl yn y gêm yn fuan wedyn diolch i gôl Martin Rose wedi 36 munud. Tair gôl mewn cyfnod byr yn yr hanner cyntaf felly ond doedd dim mwy i fod wrth i ddeg dyn Bangor ddal eu gafael ar eu mantais fain trwy gydol yr ail hanner.
Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Bangor yn yr ail safle tra mae Port Talbot yn aros yn nawfed yn y tabl.
Prestatyn G–G Castell Nedd
Gohiriwyd y gêm ar Erddi Bastion brynhawn Sadwrn gan fod y cae dan ddŵr.
Caerfyrddin 0–1 Y Seintiau Newydd
Roedd gôl gynnar Alex Darlington yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth bwysig i’r Seintiau ar Barc Waun Dew o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn.
Bala – Lido Afan
Gohiriwyd y gêm ar Faes Tegid brynhawn Sul gan fod y cae dan ddŵr.