Roedd na deyrnged teimladwy i Gary Speed yn Newcastle cyn y gem ddi-sgor, meddai gohebydd clwb Abertawe, Guto Llewellyn…
Abertawe sydd â’r record oddi cartref gwaethaf yn y gynghrair Saesneg, ac unwaith eto methodd yr Elyrch ennill ddydd Sadwrn pan deithion nhw i Newcastle. Serch hynny, roedd hen ddigon o agweddau cadarnhaol i’w perfformiad ym Mharc St James. Llwyddodd Abertawe i rwystro Newcastle am naw deg munud ar brynhawn iasoer yng Ngogledd-Ddwyrain Lloegr, i sicrhau gêm di-sgor a phwynt gwerthfawr.
Serch dechrau gwych annisgwyl i’r tymor, roedd Newcastle wedi disgyn i 7ed yn y tabl, yn dilyn cyfres o ganlyniadau gwael. Derbyniodd hyfforddwr Newcastle, Alan Pardew, hwb cyn y gêm pan gyhoeddwyd bod Cheick Tioté a’r capten, Fabricio Coloccini yn holliach. Bu’r ddau yn golledion mawr i Pardew, yn enwedig Coloccini, sydd wedi bod yn arwrol yn ystod hanner cynta’r tymor.
Dau newid oedd i’r tîm o Abertawe a gurodd Fulham wythnos ddiwetha, gyda Joe Allen yn dychwelyd o waharddiad i gymryd lle Luke Moore yng nghanol y cae, a Danny Graham yn cymryd lle Leroy Lita. Roedd golwr Abertawe, Michel Vorm, yn rhagorol yn erbyn Fulham, ac roedd y cefnogwyr yn gobeithio am berfformiad tebyg yn erbyn un o ymosodwyr mwyaf egnïol y gynghrair, Demba Ba.
Cyn y gêm ymddangosodd y ddau dîm o’r ystafelloedd newid yn gynharach nag arfer er mwyn bod yn rhan o seremoni goffa i Gary Speed. Roedd cyn-gapten a chyn-hyfforddwr Cymru yn arwr yn Newcastle ar ôl chwarae 213 gêm i’r clwb. Roedd teulu Speed yn bresennol ar y cae ac yn yr eisteddleoedd wrth i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr ymuno â’r tenor Cymraeg, Gwyn Hughes yn canu “Cwm Rhondda.” Daliodd cefnogwyr Newcastle bapurau uwch eu pennau er mwyn creu rhif 11 enfawr. Roedd yn deyrnged teimladwy i Speed, ac fe ymadawodd teulu Speed y cae dan deimlad.
Dechreuodd Newcastle gyda brwdfrydedd a chyffro, yn gwthio o’r funud agoriadol.
Mewn hanner cyntaf anodd i’r ymwelwyr ymdrechodd Abertawe i ddelio gyda chwaraewyr ymosodol Newcastle. Roedd chwaraewyr Abertawe’n euog o droseddi cyson, ac ar ôl 19 munud bu bron iawn iddynt gael eu cosbi.
O gic-rydd Cabaye, plymiodd Coloccini i benio’r bêl yn erbyn y postyn o ongl gul. Rai munudau yn hwyrach ergydiodd Ba o yml y cwrt cosbi ac oni bai am y postyn mi fyddai Newcastle wedi sgorio. Ar ôl taro’r ddau bostyn gorfodwyd Vorm i arbed. Trodd Demba Ba yn ystwyth o flaen Steven Caulker cyn anelu ergydiad nerthol i gyfeiriad Vorm. Ychydig funudau cyn yr egwyl cafodd Newcastle un cyfle olaf i sgorio. Ergydiodd yr Archentwr, Jonas Gutierrez o 30 llath, symudodd y bêl yn wyllt drwy’r awyr cyn hedfan modfeddi i’r chwith o bostyn pella Vorm.
Roedd yr Elyrch yn ffodus i gyrraedd hanner amser yn gyfartal a newidiodd Brendan Rodgers ei dîm er mwyn ceisio dylanwadu mwy ar y gêm. Roedd Mark Gower wedi cael hanner gwallus, a gobeithiodd Rodgers y buasai presenoldeb Kemy Augustien yng nghanol y cae yn cyfyngu ar gyfleoedd Newcastle.
Dechreuodd Abertawe’r ail-hanner mewn modd llawer mwy awdurdodol a gydag ychydig mwy o awch ymosodol. Parhaodd Newcastle i weithio’n galed a chwilio am gôl ond cynyddodd hyder Abertawe pan arbedodd Vorm unwaith yn rhagor o gynnig Ba gyda’i droed chwith. Dyma oedd cyfle gorau Newcastle yn yr ail hanner. Pan wastraffwyd cyfle Ba, gostyngodd hyder Newcastle. Eilyddiodd Alan Pardew dair gwaith er mwyn ceisio adfywio ei dîm, ond methodd y ddau frawd Ameobi, a Vuckic greu llawer o ddim.
Roedd Abertawe wedi gwrthsefyll pob her ac roedden nhw nawr yn ffyddiog eu bod wedi cipio’r pwynt. Ond ar ôl 77 munud cafodd Scott Sinclair gyfle euraid i ddwyn triphwynt anhaeddiannol. Cafodd Sinclair ei ganfod yng nghwrt cosbi Newcastle gan Joe Allen, ond wyneb yn wyneb â’r amddiffynnwr, Perch, methodd lywio’r bêl i mewn i gornel y rhwyd.
Gorffennodd y gêm yn ddi-sgor. Teithiodd cefnogwyr Abertawe am dros wyth awr i weld gêm ddi-fflach, ond o’i gymharu â’r rhan fwyaf o ganlyniadau Abertawe oddi cartref y tymor yma, roedd pwynt ym Mharc StJames yn ganlyniad gwych.
Mae disgwyl i gyfnod yr wyl fod yn gyfnod pwysig iawn i bob clwb, a phwy a wyr, efallai ar ddiwedd y tymor mi fydd Abertawe yn ddiolchgar iawn am bwyntiau megis yr un a enillwyd yn Newcastle.