Faletau - Sgoriwr a Seren y Dreigiau
Dreigiau 19–23 Caerwysg
Mae’r Dreigiau fwy neu lai allan o’r Cwpan Amlin ar ôl colli yn erbyn Caerwysg ar Rodney Parade nos Sul. Cipiodd yr ymwelwyr y fuddugoliaeth gyda chais hwyr wedi i’r Dreigiau fod ar y blaen am rannau helaeth o’r gêm.
Roedd pethau’n edrych yn addawol i’r Dreigiau ar yr egwyl wedi i gais Toby Faletau yn hwyr yn yr hanner roi deg pwynt o fantais iddynt.
Cyfnewidiodd y ddau faswr, Jason Tovey ac Ignacio Mieres ddwy gic gosb yr un yn yr ugain munud cyntaf cyn i Tovey ychwanegu un arall wedi 25 munud i roi’r tîm o Gymru ar y blaen o 9-6.
Yna gyda dim ond dau funud o’r hanner ar ôl sgoriodd Faletau gais gwych i ymestyn mantais ei dîm. Dechreuodd wythwr Cymru’r symudiad yn ddwfn yn ei hanner ei hun cyn derbyn cefnogaeth gan Tovey ac Aled Brew cyn gorffen y symudiad ei hun. Dipyn o gais i’r Cymry ac yn dilyn trosiad Tovey roedd ganddynt fantais gyfforddus.
Ond yn ôl y daeth Caerwysg yn gynnar yn yr ail hanner. Manteisiodd y bachwr, Simon Alcott ar dafliad gwael gan fachwr y Dreigiau, Lloyd Burns i linell amddiffynnol er mwyn sgorio cais cyntaf y Saeson. Trosodd yr eilydd o faswr, Gareth Steenson y cais cyn ychwanegu cic gosb hefyd doc cyn yr awr. Roedd Tovey wedi llwyddo gyda chic gosb yn y cyfamser ond roedd mantais y Dreigiau wedi ei chwtogi i dri phwynt gyda chwarter y gêm yn weddill.
Ac felly yr arhosodd hi tan bedwar munud o’r diwedd pan groesodd James Phillips i ddwyn y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr. Cododd yr wythwr y bêl o fôn sgrym ar linell bum medr y Dreigiau cyn hyrddio dros y gwyngalch a thirio o dan y pyst. Ychwanegodd Steenson y ddau bwynt wrth i’r ymwelwyr ennill o 23-19.
Mae’n anhebygol iawn y bydd y Dreigiau’n ennill grŵp 4 bellach a hwythau yn y trydydd safle gyda dim ond dwy gêm ar ôl. Does fawr o syndod felly mai canolbwyntio ar y gynghrair y bydd y rhanbarth fel yr eglurodd y mewnwr, Wayne Evans ar ôl y gêm:
“Ni mas o Ewrop nawr felly rhaid i ni ganolbwyntio ar y gynghrair. Mae’n rhaid i ni ennill [y gemau darbi dros gyfnod y Nadolig]. Ni wastad moyn ennill gartref yn erbyn y Scarlets a’r Gweilch ac fe fyddai’n neis i ennill oddi cartref yn erbyn y Gleision hefyd.