Ken Owens - sgoriwr unig gais y Scarlets
Munster 19 Scarlets 13
Mae gobeithion y Scarlets o fynd ymhellach yng Nghwpan Heineken fwy neu lai ar ben.
Fe aethon nhw i Limerick a cholli o 19-13 yn erbyn Munster – er eu bod wedi cael cyfleoedd i ennill.
Roedden nhw wedi dechrau’n dda ac, ar adegau, wedi dod yn agos at sgorio ond doedd y symudiadau yn y diwedd ddim yn ddigon cywir.
Gyda phwynt bonws, mae’n rhaid iddyn nhw ennill eu dwy gêm ddiwetha’ a chael pwyntiau bonws i gael unrhyw obaith o fynd ymhellach.
Roedd yna gwyno am berfformiad y dyfarnwr wrth i Munster sbwylio pêl y Scarlet yn gyson ac fe ddaeth unig gais y Gwyddelod pan oedd y Cymry i lawr i 14 dyn yn gynnar yn yr ail hanner.
Cafodd Jonothan Edwards ei gosbi am fynd i mewn i ryc o’r ochr ac o fewn eiliadau roedd pac y Gwyddelod wedi sicrhau pêl lân mewn lein ar linell bum medr y Scarlets ac wedi hyrddio dros y gwyngalch. Yr wythwr, James Coughlan oedd y sgoriwr ac wedi i Ronan O’Gara ei drosi ac ychwanegu cic gosb arall toc wedi’r awr roedd Munster ar y blaen o 19-6.
Fe lwyddodd y Scarlets i gael cais yn ôl trwy’r eilydd o fachwr, Ken Owens, ond fe fethon nhw â manteisio ar gyfleoedd eraill.
Gwnaeth Owens yn dda i dirio yn dilyn gwaith cryf gan weddill y pac wrth linell y Gwyddelod ac wedi trosiad Rhys Priestland dim ond chwe phwynt oedd ynddi â chwarter awr yn weddill. Ond methodd y Cymry ag ychwanegu at y sgôr ac i wneud pethau’n waeth anfonwyd y prop Rhys Thomas i’r gell gallio am y munudau olaf ar ôl taflu dwrn at un o chwaraewyr Munster.
Ymateb
Efallai bod y Scarlets braidd yn anlwcus heddiw ond dylai’r rhanbarth fod yn ennill gemau fel hyn yn ôl Ken Owens:
“Dy’n ni ddim yn bell bant, fe aethon ni i Frankin Gardens ac ennill a churo Castres gartref, ond y cam nesaf nawr i ni yw dod i lefydd fel Thomand Park ac ennill. Mae’n rhaid i ni wneud hynny os ydyn ni am ennill rhywbeth yn Ewrop.”
Braidd yn siomedig oedd yr hyfforddwr, Garem Evans hefyd:
“Ni’n eithaf siomedig ar y cyfan, ni wedi bod yn anffodus dros y ddwy gêm. Ni wedi perfformio’n dda, wedi cystadlu gydag un o dimau gorau Ewrop ond wedi bod yn anffodus.”
Ond mae’r Scarlets yn yr ail safle yng ngrŵp 1 o hyd gydag 11 pwynt ac mae Evans yn hyderus y gall y rhanbarth ei gwneud hi i’r chwarteri o hyd:
“Fe fydd hi’n gêm enfawr yn erbyn Northampton gartref felly gobeithio y bydd Parc y Scarlets yn llawn. Ry’n i dal yn brwydro ac mae cyfle da gyda ni o hyd i fynd drwodd i’r rowndiau nesaf.