Ni fydd gorsaf radio newydd yn y Gymraeg ar y we, Radio’r Cymry yn cael ei lansio ar cyntaf o Ionawr rhagor, cafodd ei gyhoeddi heddiw.

Roedd Huw Marshall, cynhyrchydd teledu gafodd y syniad o greu’r orsaf radio newydd – wedi bwriadu lansio’r orsaf  newydd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn gyda “diwrnod llawn o ddarlledu byw ar Radio’r Cymry”.

Ond, yn ôl Huw Marshall, mae’r “ymateb wedi bod cystal” i’r cynlluniau – mae trefnwyr am ohirio darlledu’r rhaglen gyntaf i wneud “mwy o waith paratoi” a “dod a phopeth at ei gilydd.”

‘Cael popeth at ei gilydd’

“Does dim problem, ond rydan ni’n ceisio cael popeth at ei gilydd,” meddai Huw Marshall. “Mae’r ymateb wedi bod mor dda – gyda phobl yn cynnig syniadau, mae’n cymryd ’chydig bach mwy o amser i ddod a phopeth at ei gilydd,” meddai’r cynhyrchydd.

Un o’r tasgau y mae trefnwyr yn gweithio arnynt ar hyn o bryd yw integreiddio chwaraewr i mewn i’r wefan. “Mae’n bwysig ein bod ni’n dewis y dechnoleg gywir i ddechrau. Mae’n well ein bod ni’n cymryd yr amser i wneud hynny nawr,” meddai.

“Roedd Ionawr 1 chydig yn uchelgeisiol gyda phobl ar wyliau a ballu – roedd yn  gorfforol amhosibl i wneud. Mae’n well bod o chydig bach hwyrach ac yn well,” meddai.

Mae’n gobeithio y bydd yr orsaf we newydd yn cael ei lansio “cyn diwedd fis Ionawr” 2012.

Sgiliau

Un bwriad gyda’r orsaf newydd yw “rhoi sgiliau” i bobl mewn cymunedau i recordio rhaglenni eu hunain.

Bydd modd clywed ystod eang o gerddoriaeth ar yr orsaf newydd er y bydd yr holl siarad yn Gymraeg.

Eisoes, mae cyfres o gyfarfodydd yn cael eu cynnal ledled Cymru yn y misoedd i ddilyn, lle caiff y cyhoedd ddod i wybod mwy am y fenter a rhannu syniadau.