Gary Speed
Bydd gweddw rheolwr tîm pêl-droed Cymru a chyn chwaraewr Newcastle United, Gary Speed, ynghangol y dorf fydd yn gwylio’r gêm rhwng Newcastle ac Abertawe y prynhawn yma er mwyn clywed teyrnged Newcastle United i’w cyn chwaraewr gafwyd yn farw yn ei gartref yn Swydd Gaer fis yn ôl.
Dywedodd rheolwr Newcastle United, Alan Pardew bod y cefnogwyr eisiau dangos i deulu Gary Speed cymaint yr oeddyn nhw’n feddwl ohono.
“Rydan ni eisiau talu teyrnged mewn modd fydd yn anrhydeddu enw Gary ac y gall Louise a’r teulu fod yn falch ohono,” meddai Mr Pardew.
Fe fydd y dorf yn canu “Bread of Heaven” ac arddangos cardiau efo’r rhif 11 arnyn nhw, sef rhif Gary Speed tra roedd yn chwarae i Newcastle.