Gweilch 13–16 Saracens
Mae’n ymddangos fod ymgyrch Cwpan Heineken y Gweilch drosodd am dymor arall wedi iddynt golli yn erbyn y Saracens am yr ail wythnos yn olynol. Doedd cais Ian Gough yn yr ail hanner ddim yn ddigon i’r Gweilch wrth iddynt dangyflawni yn Ewrop unwaith yn rhagor.
Cyfnewid Ciciau Cosb
Rhoddodd Owen Farrell yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic gosb wedi chwe munud cyn i Dan Biggar unioni pethau i’r Gweilch bum munud yn ddiweddarach. Cyfnewidiodd y ddau giciwr ddwy gic gosb arall cyn i Ernst Joubert sgorio cais cyntaf y gêm i’r ymwelwyr.
Camgymeriad gan y Gweilch a roddodd y cais ar blât i’r wythwr wrth i gic Biggar gael ei tharo i lawr gan Charlie Hodgson. Llwyddodd Farrell gyda’r trosiad cyn ychwanegu tri phwynt arall cyn yr egwyl gyda chic gosb, 16 -6 i’r Saracens ar hanner amser.
Ac i wneud pethau’n waeth roedd yn rhaid i’r Gweilch ddechrau’r ail hanner gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i’r prop, Paul James gael ei anfon i’r gell gosb am ddymchwel sgrym ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Y Gweilch yn Gwella
Ond er gwaethaf anfantais rifyddol y Gweilch hwy a ddaeth agosaf at sgorio yn neg munud cyntaf yr ail hanner. Methodd Biggar gic gosb wedi 43 munud cyn i’r dyfarnwr teledu wrthod caniatáu cais i’r canolwr, Ashley Beck ddau funud yn ddiweddarach.
Yna, cyfle’r ymwelwyr i golli aelod o’i rheng flaen oedd hi wrth i’r bachwr, Shalk Brits gael ei anfon i’r gell gosb wedi 51 munud. A phrin yr oedd Brits wedi dychwelyd i’r cae pan gafodd Kelly Brown ei anfon i’r gell am ddeg munud.
A llwyddodd y Gweilch i gymryd mantais yn syth y tro hwn wrth i Gough groesi am gais yn y gornel yn dilyn pas dda gan Biggar. Holwyd y dyfarnwr teledu unwaith eto ond caniatawyd y cais y tro hwn a dim ond tri phwynt oedd ynddi yn dilyn trosiad llwyddiannus Biggar.
Ond methodd y rhanbarth o Gymru orchfygu amddiffyn y Saeson eto yn y chwarter awr olaf a bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt bonws yn unig, 16-13 y sgôr terfynol o blaid yr ymwelwyr.
Mae’r Gweilch yn wynebu talcen caled i’w gwneud hi i’r chwarteri er gwaethaf eu pwynt bonws heno. Maent bellach yn drydydd yng ngrŵp 5 a hynny chwe phwynt tu ôl i’r Saracens ar y brig.