Caeredin 19–12 Gleision

Sicrhaodd cic gosb hwyr Leigh Halfpenny bwynt bonws i’r Gleision yn dilyn perfformiad siomedig oddi cartref yng Nghaeredin. Sgoriodd Tim Visser unig gais y gêm yn fuan yn yr hanner cyntaf wrth i’r tîm cartref ennill yn haeddianol.

Dechrau Da i Gaeredin

Caeredin a ddechreuodd y gêm gryfaf ac roedd ganddynt chwe phwynt o fantais i ddangos am eu goruchafiaeth wedi dim ond deg munud. Llwyddodd maswr y tîm cartref, Greig Laidlaw gyda dwy gic gosb gynnar, y naill wedi tri munud a’r llall ar ôl deg munud.

Ymestynnodd yr Albanwyr eu mantais bedwar munud yn ddiweddarach wrth iddynt sgorio cais cyntaf y gêm. Bylchodd y canolwr, Nick De Luca yn dda cyn rhoi’r cyfle i’r asgellwr, Visser groesi yn y gornel er bod y bas olaf yn edrych fel pas ymlaen. Trosodd Laidlaw y ddau bwynt ychwanegol gan ei gwneud hi’n 13-0 i’r tîm cartref wedi chwarter awr.

Ond tarodd y Gleision yn ôl wedi 18 munud gyda thri phwynt o droed Dan Parks, 13-3 i’r tîm cartref.

Gwastraffu Cyfle

Gwastraffodd Visser gyfle euraidd i sgorio ail gais Caeredin wedi ychydig llai na hanner awr pan fethodd a dal cic letraws gywir Laidlaw gyda’r llinell gais yn galw. Ond roedd y dyfarnwr yn chwarae’r rheol fantais pryn bynnag felly parhau i bwyso yng nghysgod pyst y Gleision a wnaeth Caeredin cyn gadael yn y diwedd gyda thri phwynt diolch i gôl adlam Laidlaw.

Ychwanegodd Laidlaw gic gosb arall ychydig funudau yn ddiweddarach i sefydlu 16 pwynt o fantais i’r tîm cartref ar yr egwyl. Caeredin ar y blaen yn haeddianol o 19-3 ar hanner amser felly.

Dechreuodd y Gleision yr ail gyfnod yn fwy addawol a chreodd yr eilydd profiadol, Maama Molitika argraff yn syth wrth i’r blaenwyr sicrhau gwell meddiant i’r olwyr. Ond er gwaethaf goruchafiaeth y Gleision yn 20 munud cyntaf yr ail hanner dim ond un gic gosb gan Parks a ychwanegwyd at y sgôr, 19-6 i’r tîm cartref o hyd ar yr awr.

Pwynt Bonws

Ychwanegodd Parks dri phwynt arall wedi 70 munud er mwyn dod â’r pwynt bonws o fewn cyrraedd i’r rhanbarth o Gymru, 19-9 i Gaeredin gyda deg munud yn weddill.

A daeth y pwynt bonws hwnnw funud o’r diwedd wrth i Leigh Halfpenny drosi mynydd o gic gosb. Roedd yn berfformiad gwell gan y Gleision yn yr ail hanner ond doedd dim dwywaith bod Caeredin yn haeddu’r fuddugoliaeth. Ond efallai y bydd y pwynt bonws yn un pwysig maes o law mewn grŵp hynod agos.

Yn wir, mae’r pwynt bonws yn ddigon i gadw’r Gleision ar frig grŵp 2, ond mae gêm anodd yn eu haros oddi cartref yn erbyn Gwyddelod Llundain ym mis Ionawr.