Gweilch v Saraseniaid 8pm Heno
Er gwaethaf ymdrech lew’r Gweilch yn ail hanner yr ornest yr wythnos ddiwethaf, pencampwyr Lloegr enillodd y dydd. Er hyn fe ddaeth y Gweilch o Wembley gyda phwynt bonws.
Mewn cynhadledd i’r wasg yr wythnos yma, cydnabyddodd hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley nad oedd ei dim wedi cael y dechrau gorau i’r ymgyrch.
“Wnaethon ni ddim gweld unrhyw beth nad oedden ni’n eu disgwyl gan y Saraseniaid yr wythnos ddiwethaf – ni wnaeth fethu delio â fe. Maen nhw’n dod â’r hyrddiad mawr o’r llinell a gêm gicio, gan ymosod o’r awyr.
“Yn amddiffynnol yn yr hanner cyntaf fe ddechreuon ni’n araf gan roi mantais gynnar iddyn nhw. Ni allwn fforddio gwneud hynny, dyna’r gwahaniaeth oedd yn y gêm. Fe fyddwn ni’n gweithio’n galed i’w hatal rhag cael y fantais gynnar yna’r wythnos hon.”
Ymhlith y blaenwyr gwelir y newidiadau ar gyfer y gêm yn y Liberty. Ryan Jones a Jonathan Thomas, y ddau glo’r wythnos ddiwethaf, fydd yn symud i’r rheng ôl gan ddisodli Joe Bearman a Tom Smith.
Justin Tipuric fydd yn cwblhau’r drindod wrth fôn y sgrym ac yn cymryd y gapteniaeth oddi ar Tom Smith.
Y ddau Ian fydd yn dechrau yn safle’r ail reng, Gough ac Evans. Mae Paul James yn cychwyn ei gêm gyntaf ers Cwpan y Byd yn y rheng flaen a Duncan Jones yn symud i’r fainc.
Felly gwelir pac ar ei newydd wedd i herio pŵer y Saraseniaid sy’n brolio rhai o gewri’r gêm yn Lloegr a De Affrica megis Matt Stevens, Steve Borthwick, Schalk Brits a John Smit sydd ar y fainc. Mae cyfuniad yr hen ben a’r prentis ifanc yn Charlie Hodgson ac Owen Farrell ymysg yr olwyr yn un effeithiol wrth liwio’r gêm.
Caeredin v Gleision 8pm Heno
Un newid sydd i ranbarth y brifddinas a drechodd prifddinas yr Alban y penwythnos diwethaf.
Nu fydd Alex Cuthbert yn gwneud y trip i Gaeredin heno oherwydd anaf i linyn ei gâr, felly’r canolwr Gavin Evans fydd yn cymryd ei le ar yr asgell a Dafydd Hewitt yn camu i’r fainc.
Er y sïon gan y Gleision y byddai Gavin Henson yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y crys glas y penwythnos yma, mae’n ymddangos bydd yn rhaid aros nes gemau ‘Darbi’r Dolig’ i weld yr Orenfab yn ôl ar y maes.
Alex Cuthbert sgoriodd unig gais y Gleision yr wythnos ddiwethaf wrth i Dan Parks ychwanegu ugain pwynt ei hun i sgôr terfynol y Gleision. Er eu bod oddi cartref heno, y gobaith yw bydd y maswr o’r Alban yn medru ail greu ei berfformiad yr wythnos ddiwethaf a theimlo’n gartrefol ym mynwes Murrayfield.
Mae’r Gleision ar frig eu tabl ar hyn bryd gyda 12 pwynt.
Munster v Scarlets 12:45pm Dydd Sul
Talcen caled fydd teithio i Barc Thommond ar y Saboth. Wedi gwastraffu cyfleoedd ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn diwethaf, fe fydd tîm Nigel Davies yn llawn ymwybodol o’r her sy’n eu hwynebu.
Mewn cynhadledd i’r wasg wedi’r gêm yr wythnos ddiwethaf roedd Nigel Davies yn pwysleisio’r angen am gywirdeb dro ar ôl tro ac yn wir yn erbyn tîm fel Munster prin yw’r cyfleoedd i ennill gêm, felly mae’r angen am gywirdeb pan fydd cyfle yn ymddangos yn hanfodol.
O edrych ar yr agweddau cadarnhaol, fe greodd y Scarlets gyfleoedd i ennill y gêm honno, a chafwyd pwynt bonws o’r gêm ac maen nhw wedi dangos yn barod y tymor yma eu bod yn medru ennill yng nghadarnle un o fawrion Ewrop.
Dreigiau v Caerwysg (Exeter) 17:45pm Dydd Sul
Gêm sâl gafwyd yr wythnos ddiwethaf, wrth i’r amodau a’r gwrthwynebwyr atal y Dreigiau rhag dangos y fenter honno sydd wedi profi’n effeithiol yn eu gemau eraill y tymor yma.
Wedi dweud hyn fe welwyd cymeriad a dycnwch gan y Gwŷr o Went i gadw’r gêm yn dynn yn yr ail hanner a dangos eu bod yn llawn cystal â blaenwyr y gwŷr o Ddyfnaint, a naddu ffordd nol i’r gêm.
Er hyn methiant bu eu hymdrech am fuddugoliaeth a phwynt bonws, ond dim ond pwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr maen nhw yn y tabl ac mae’r Dreigiau wedi profi’n dîm gwahanol ar gae Rodney Parade.
Gyda’r newyddion fod Luke Charteris yn gadael ar ddiwedd y tymor a’i gyd glo Scott Morgan wedi ei anafu tan ddiwedd y tymor fe fydd y Dreigiau’n awchu i godi calon eu cefnogwyr.