Mae’r chwaraewr canol cae Kemy Agustien yn credu mai ysbryd tîm Abertawe fydd yn allweddol er mwyn cadw statws y clwb yn yr Uwch Gynghrair.

Mae’r elyrch yn yr 11fed safle yn y tabl ond dal heb ennill oddi cartref.

Eu gobaith yw gwell’r record honno yn Newcastle yfory.

Ar ddechrau’r tymor roedd yna lawer o byndits yn dweud na fydd Abertawe yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf, ond wrth i ni nesáu at ganol y tymor mae tîm Brendan Rodgers wedi medru dal eu tir yn erbyn y goreuon.

 Dim ond dau bwynt mae’r Elyrch wedi ennill mewn saith gêm oddi cartref y tymor hwn.

Ond mae seren canol cae’r tîm yn ffyddiog bod curo yn Newcastle o fewn eu cyrraedd.

 ‘‘Mae’r ysbryd y tîm yn un arbennig iawn,’’ Kemy Agustien sy’n hanu o’r Iseldiroedd.

‘‘Mae pawb eisiau chwarae ond os nad ydych yn dechrau’r gêm, neu yn y garfan hyd yn oed, mae’n rhaid i chi gefnogi eich cyd-chwaraewyr gymaint ag y gallwch.

‘‘Efallai eich bod yn cystadlu am yr un safle, ond mae’n rhaid cofio eich bod yn chwarae yn yr un clwb a cheisio gwneud y gorau i’r clwb.’’