Caerfyrddin –
Y Seintiau Newydd

Bydd Caerfyrddin yn croesawu camerâu Sgorio i Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn yn gobeithio am eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn Y Seintiau Newydd ers mis Chwefror 2008.

Mae’r Hen Aur yn gorwedd ar waelod y gynghrair ers wythnosau a does fawr o syndod yn hynny wrth ystyried eu rhediad diweddar. Maent wedi colli eu tair gêm gynghrair ddiwethaf a dim ond un pwynt allan o bymtheg posibl maent wedi ei gasglu yn y pum gêm ddiwethaf.

Talcen caled sydd yn wynebu’r rheolwr newydd, Neil Smothers felly. Hon fydd gêm gartref gyntaf Smothers wrth y llyw wedi i’w dîm golli o 3-1 oddi cartref yn Airbus yn ei gêm gyntaf yr wythnos ddiwethaf. Ac un peth fydd yn codi ei galon yw’r ffaith fod pob un o ddeg pwynt Caerfyrddin y tymor hwn wedi dod ar y Waun Dew.

Ond bydd yn rhaid i Gaerfyrddin wella’n amddiffynnol os am unrhyw obaith o gael canlyniad cadarnhaol yn erbyn y Seintiau. Mae’r tîm o’r de orllewin wedi ildio 12 gôl yn eu tair gêm ddiwethaf a dim ond un llechen lân y maent wedi ei chadw trwy’r tymor, ac roedd hynny yn ôl ym mis Awst.

Ac mae sgorio yn y pen arall wedi bod yn broblem iddynt hefyd a hanner ffordd trwy’r tymor does yr un aelod o’r garfan wedi sgorio mwy na thair gôl gynghrair. Mae’r blaenwr, Nick Harrhy wedi sgorio tair gan gynnwys un wedi llai na munud yn erbyn Airbus yr wythnos ddiwethaf tra mae Tim Hicks wedi cyfrannu tair o ganol cae hefyd.

Collodd Caerfyrddin o 4-0 yn y gêm gyfatebol yn Neuadd y Parc fis Hydref a bydd rhaid iddynt berfformio’n well y penwythnos hwn os am unrhyw obaith yn erbyn y tîm llawn amser.

Gallai buddugoliaeth godi Caerfyrddin oddi ar y gwaelod pe bai’r Drenewydd yn colli gartref yn erbyn Airbus hefyd ond dichon y byddai gêm gyfartal yn ganlyniad digon derbyniol yn erbyn y tîm sy’n drydydd.

Mae Sgorio’n dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf am 15:45.