Caerfyrddin – Y Seintiau Newydd

Bydd y Seintiau Newydd a chamerâu Sgorio ym Mharc Waun Dew brynhawn Sadwrn gyda’r tîm o Groesoswallt yn gobeithio parhau â’u rhediad di guro dan reolaeth Carl Darlington a Scott Ruscoe.

Un fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal yw record y ddau reolwr dros dro ers cymryd yr awenau a byddant yn ffyddiog o ychwanegu buddugoliaeth arall wrth wynebu’r tîm ar y gwaelod brynhawn Sadwrn.

Nid yw’r Seintiau wedi cadw llechen lân yn eu chwe gêm ddiwethaf ac maent wedi ildio 12 gôl yn y broses. Wedi dweud hynny mae’r sefyllfa wedi gwella ers i’r ddau reolwr newydd fod wrth y llyw gan mai dim ond dwy waith y mae’r tîm wedi ildio yn y ddwy gêm ddiwethaf.

Ond does dim problemau i’r Seintiau yn y pen arall. Mae’r prif sgoriwr, Greg Draper bellach wedi sgorio 11 gôl y tymor hwn, dim ond pump yn llai na thîm Caerfyrddin i gyd. A dim ond blaenwr Llanelli, Rhys Griffiths sydd wedi rhwydo’n amlach na’r ymosodwr rhyngwladol o Seland Newydd y tymor hwn.

Enillodd y Seintiau o 4-0 yn y gêm gyfatebol yn Neuadd y Parc fis Hydref a byddai canlyniad tebyg eto wrth fodd Darlington a Ruscoe.

Mae’r Seintiau yn drydydd ar hyn o bryd ond gallai buddugoliaeth yng Nghaerfyrddin brynhawn Sadwrn eu codi yn ôl i’r brig yn ddibynnol ar ganlyniadau Llanelli (oddi cartref yn Aberystwyth) a Bangor (oddi cartref ym Mhort Talbot).

Mae Sgorio’n dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf am 15:45.