Mae cynrychiolwyr o Gaerdydd wedi llwyddo i sicrhau y bydd digwyddiad bocsio rhyngwladol yn dod i Gaerdydd.
Cyhoeddodd y Cyngor Bocsio Rhyngwladol (y WBC) heddiw fod Caerdydd wedi’i dewis i gynnal ei gonfensiwn yn 2013 sy’n cynnwys gornest am deitl y byd yn cael ei chynnal yn y ddinas fel rhan o’r digwyddiad.
Mae’r newyddion yn dilyn ymweliad cynrychiolwyr Caerdydd, o dan arweiniad y Cynghorydd Neil McEvoy â chonfensiwn yn Las Vegas i gyflwyno’r cais i gael cynnal y digwyddiad ym mhrifddinas Cymru.
Fe fydd Confensiwn y WBC yn 2013 yn denu bocswyr, hyrwyddwr, rheolwyr, gweinyddwyr, hyfforddwyr, cystadleuwyr, pencampwyr a chyn-bencampwyr rhyngwladol a hyd at 1000 o gynadleddwyr. Mae’r cyngor yn amcangyfrif y bydd y confensiwn yn cyfrannu tua £3.2m i economi’r ddinas.
“Pan gyrhaeddon ni yn Las Vegas, roedd llawer o ddinasoedd rhyngwladol mawr eraill yn cystadlu i gynnal y digwyddiad yma,” meddai’r cynghorydd Neil McEvoy.
“…Fe ddangoson ni iddyn nhw fod gan Gaerdydd enw da rhyngwladol fel cyrchfan chwaraeon o safon fyd-eang. Roedden nhw eisoes yn hapus gyda’r ddinas yn dilyn Noson Pencampwyr WBC yn 2010, ac rwy’n gwybod eu bod nhw’n edrych ymlaen at ddod i Gaerdydd i gynnal Confensiwn WBC yn 2013.”