Imogen Thomas
Mae’r pêl-droediwr Ryan Giggs wedi derbyn heddiw nad oedd na sail i gyhuddo seren y rhaglen realiti Big Brother, Imogen Thomas, o flacmel.

Yn ol adroddiadau yn y wasg, roedd Imogen Thomas, 28, wedi cael perthynas gyda Giggs ac, wrth gael gwaharddiad ynghynt eleni, roedd cyfreihtwyr Giggs wedi awgrymu bod y fodel o Lanelli wedi ceisio cael arian ganddo.

Roedd hi yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw i glywed ei chyfreithiwr David Price QC yn darllen datganiad yn achos CTB (yr enw oedd yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at Ryan Giggs yn yr achos) yn erbyn News Group Newspapers (NGN) ac Imogen Thomas.

Ar ôl y gwrandawiad byr, dywedodd Imogen Thomas mewn datganiad bod “ceisio amddiffyn fy nghymeriad wedi bod  yn gyfnod gofidus iawn” iddi.

Dywedodd ei bod yn teimlo “rhyddhad” bod Ryan Giggs a’r llys wedi derbyn nad oedd hi wedi ceisio ei flacmelio.

“Does gen i ddim byd i ychwanegu – mae hyn i gyd y tu ôl i mi nawr,” meddai.’

‘Gwerthu stori’

Yn ei ddatganiad ar gyfer ei gais am waharddiad llys, roedd ‘CTB’ wedi dweud bod ymddygiad Imogen Thomas wedi gwneud iddo amau ei bod hi’n ystyried gwerthu ei stori i bapur newydd The Sun, meddai David Price.

“Roedd o hefyd wedi dweud ei bod hi wedi gofyn am arian i’w helpu i brynu fflat a’i fod yntau wedi dechrau amau ei chymhellion. Roedd hefyd yn bryderus ei bod hi’n cael ei chynrychioli gan yr asiant cyhoeddusrwydd amlwg Max Clifford,” meddai  David Price.

Ar Ebrill 14 roedd Mr Ustus Eady wedi caniatáu gwaharddiad llys i atal cyhoeddi dim na datgelu enw Giggs. Dywedodd mai ei resymau am ganiatáu’r gwaharddiad oedd bod tystiolaeth CTB yn awgrymu bod CTB yn cael ei blacmelio, er nad dyna sut roedd CTB wedi cyfeirio ati.

‘Peri gofid’

Dywedodd y barnwr bod hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth prin oedd ganddo ar y pryd, a bod Imogen Thomas wedi gwadu’r honiadau.

Serch hyn, meddai David Price QC, fe gafodd yr honiad o flacmel ei adrodd yn helaeth yn y wasg.

“Doedd hyn ddim yn wir. Mae wedi bod yn hynod o niweidiol ac wedi peri gofid i Imogen Thomas,” meddai Price.

Mae The Sun bellach wedi ei gwneud hi’n glir nad oedd Imogen Thomas yn gyfrifol am yr erthygl ar Ebrill 14.