Mae’r heddlu mwyaf yng Nghymru yn pryderu am effaith diswyddo’u swyddogion mwyaf profiadol, tra’n pwysleisio nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond gwneud hynny oherwydd prinder arian.

Bydd 70 o swyddogion gyda dros 30 mlynedd o wasanaeth dan eu belt yn gorfod gadael Heddlu De Cymru eleni.

Mae pryderon y bydd colli’r holl swyddogion profiadol hyn – o lu heddlu sy’n gyfrifol am blismona 42% o holl boblogaeth Cymru – yn golygu colli arbenigedd a phrofiad oes yn y maes.

Yn ôl y bosus nid ydyn nhw eisiau gwneud y swyddogion yma’n ddi-waith, ond mae toriadau mewn gwariant wedi gwneud hynny’n anochel, medden nhw.

Mae cyllideb Awdurdod Heddlu De Cymru 5.7% yn llai ar gyfer 2011-12, oherwydd eu bod  nhw’n derbyn llai o arian gan Lywodraeth Prydain. Mae’r Awdurdod hefyd yn dweud y byddai’r toriadau wedi gorfod bod yn fwy oni bai bod elfen yr heddlu o dreth y cyngor wedi codi 5%.

Yn ôl yr Awdurdod mae 80% o’u cyllideb yn cael ei wario ar swyddogion a staff yr heddlu bob blwyddyn.

Er nad yw hi’n arferol i swyddogion heddlu gael eu diswyddo, gan mai gweision y goron ydyn nhw yn hytrach na gweithwyr sifil, mae hi yn bosib eu diswyddo drwy reol A19, sy’n caniatáu gorfodi rhai swyddogion i adael ar ôl iddyn nhw wneud 30 mlynedd o waith.

Mae rheol A19 wedi ei ddefnyddio mewn nifer cyfyngedig o achosion mewn awdurdodau heddlu eraill yng Nghymru yn barod.

Daw’r toriadau fel rhan o gynllun i gael gwared ar tua 114 o swyddogion a 167 o staff cynorthwyol Heddlu’r De yn ystod 2011-12.