Y canlyniad yn newyddion da prin i Ed Miliband
Mae’r Blaid Lafur wedi dal eu gafael ar sedd mewn isetholiad yn ne ddwyrain Lloegr, a chynyddu yn eu mwyafrif dros y Ceidwadwyr.
Llwyddodd ymgeisydd Llafur, Seema Malhotra, i gadw sedd Feltham a Heston gyda mwyafrif o 6,203 o bleidleisiau – sy’n ogwydd o 8.6% oddi wrth y Ceidwadwyr.
Er bod llai na 29% o’r etholwyr wedi troi allan i fwrw’u pleidlais – yr isaf mewn unrhyw isetholiad ers 11 mlynedd – fe lwyddodd y Lib Dems i osgoi her UKIP, gan ddod yn drydydd.
Bydd y canlyniad yn newyddion da i arweinydd Llafur, Ed Miliband, sydd eisoes yn wynebu cwestiynau caled gan rhai o fewn ei blaid ei hun oherwydd ei fod y tu ôl i David Cameron yn y polau piniwn, er gwaetha trafferthion yr economi, prinder swyddi a’r streicio diweddar.
Dywedodd yr ymgeisydd llafur y dylai’r canlyniad fod yn ddigon i “ddeffro” David Cameron.
“Er bod llai nag arfer wedi pleidleisio, rydym ni dal wedi cynyddu’n bwlch dros y Ceidwadwyr yn sylweddol – a mae’n rhaid eu bod nhw’n gofyn pam,” meddai Seema Malhotra. “Dyma neges bwysig iawn sydd wedi ei hanfon at David Cameron.”
Ond mae’r Ceidwadwyr wedi dweud y dylai Llafur fod wedi sicrhau mwy o fwyafrif petai ganddyn nhw unrhyw obaith o fynd i rif 10 yn 2015.
Llwyddodd Llafur i gynyddu eu canran o’r bleidlais o 43% yn yr etholiad cyffredinol y llynedd i 54% – gyda gogwydd o 8.6% oddi wrth y Ceidwadwyr. Roedd canran pleidlais y Ceidwadwyr i lawr o 34% i 28%, tra bod y Lib Dems wedi disgyn o 14% i ychydig dan 6%. Fe lwyddodd UKIP i godi eu pleidlais i fwy na dwbwl yr etholiad cynt – gan fynd o 2% i dros 5%.
Bu’n rhaid cynnal isetholiad yn Feltham a Heston oherwydd marwolaeth yr AS Llafur Alan Keen, wedi iddo golli ei frwydr yn erbyn canser.