Fe fydd llawdriniaethau’n ailddechrau bore ma yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, ger Caerdydd – cafodd 50 o lawdriniaethau eu canslo ddoe ar ôl i ladron ddwyn ceblau copr o eneradur wrth gefn yr ysbyty.

Roedd yr ysbyty wedi gobeithio cael generadur wrth gefn arall erbyn y prynhawn ond bu’n rhaid gohirio’r llawdriniaethau tan bore ma.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro bod y lladrad yn “gwbl warthus” ac y gallai fod wedi peryglu bywydau.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r ysbyty am 2.50pm brynhawn dydd Mawrth, ar ôl i 100 metr o  gebl copr gael ei ddwyn.

Fe ddigwyddodd y lladrad yn ystod cyfnod prysur iawn pan oedd llawfeddygon yn ceisio gwneud cymaint o lawdriniaethau â phosib cyn  y Nadolig. Mae’r ysbyty yn gwneud llawdriniaethau orthopedig a chansr y fron, ond nid rhai brys.

Mae generaduron wrth gefn yn hanfodol bwysig i ysbytai gan eu bod yn sicrhau bod gwasanaethau cynnal bywyd yn parhau os ydy’r cyflenwad trydan yn cael ei golli.

Dywedodd Jan Williams, prif weithredwr y bwrdd iechyd, bod y lladrad yn “beryglus ac yn anghyfrifol”.

Roedd y staff a chleifion yr ysbyty wedi “arswydo” o glywed am y lladrad, meddai.

“Mae llawdriniaethau 40 i 50 o gleifion wedi eu canslo, yn eu plith mae dwy wraig sydd â chansr y fron, ac mae hynny’n cael effaith trawmatig ar y ddwy glaf yna. Fe fyddwn ni’n aildrefnu’r llawdriniaethau cyn gynted â phosib,” meddai.

Ychwanegodd: “Mae pawb wedi arswydo. Mae’r lladrad yn hollol warthus ac yn beryglus ac fe allai fod wedi rhoi bywydau mewn perygl. Does neb yn gallu deall pam neu sut roedd hyn wedi digwydd o ystyried difrifoldeb posib y sefyllfa. ”

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i’r lladrad.