Leanne Wood
Mae Leanne Wood wedi cyhoeddi ei bod hi’n bwriadu sefyll fel arweinydd Plaid Cymru.
Hi yw’r pedwerydd Aelod Cynulliad i gyhoeddi y bydd yn sefyll, ar ôl Elin Jones, Simon Thomas a Dafydd Elis-Thomas.
Mewn neges ar wefan Twitter dywedodd ei bod “wedi penderfynu sefyll fel arweinydd #plaidcymru”.
Dywedodd y bydd mwy o wybodaeth ar y wefan http://www.leannewood2012.com/ a fydd yn fyw yfory.
Bydd y cyfnod swyddogol i enwebu arweinydd newydd i Blaid Cymru yn dechrau ar 3 Ionawr 2012, ac yn cau ar 26 Ionawr. Bydd y hystings cyntaf yn cael eu cynnal ym mis Chwefror.
Mae disgwyl y bydd arweinydd newydd Plaid Cymru wedi ei ddewis erbyn Cynhadledd Wanwyn y blaid ym mis Mawrth 2012.