Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi gorchymyn adolygiad i sector cymwysterau’r wlad – yn dilyn honiadau fod athrawon wedi cael cyngor annheg am gwestiynau arholiad TGAU.
Fe ddywedodd Leighton Andrews AC y byddai’r adolygiad yn edrych ar systemau amgen posibl, gan gynnwys ystyriaeth a ddylai fod ’na un darparwr yn hytrach na sawl bwrdd arholi yn cystadlu.
Daw cyhoeddiad y gweinidog yn dilyn ymchwiliad gan bapur newydd cenedlaethol – lle cafodd arholwyr eu ffilmio’n gudd yn dweud wrth athrawon pa gwestiynau i’w disgwyl.
Mae Leighton Andrews wedi dweud ei fod yn bryderus am hyder y cyhoedd mewn arholiadau TGAU a Safon Uwch.
Dywedodd y byddai’r adolygiad yn asesu sut mae’r system bresennol yn gweithio ac ydi o’n cael effaith ar safonau.
Ymateb CBAC
Heddiw, mae CBAC wedi dweud eu bod wedi cynnal ymchwiliad mewnol manwl i’r materion a godwyd gan bapur newydd y Daily Telegraph yn dilyn eu hymweliadau cudd â chyrsiau hyfforddi a gynhaliwyd gan gyrff dyfarnu yn Lloegr.
“Mae’r honiadau a wnaed gan y papur newydd yn achos pryder mawr i ni, ac rydym yn cydweithredu’n llawn â’r rheoleiddwyr yn Lloegr (Ofqual) ac yng Nghymru (AdAS) yn eu hymchwiliadau. Ni dderbyniwyd fersiynau llawn recordiadau’r Daily Telegraph gennym hyd yn hyn, ond deallwn y byddant ar gael i’r sefydliadau dyfarnu yn y dyddiau nesaf,” meddai llefarydd ar ran CBAC mewn datganiad o ymateb heddiw.
Mae’r llefarydd yn egluro i’w hymchwiliad mewnol i’r honiadau am y TGAU Hanes sefydlu’r canlynol:
- ni chafodd diogelwch a gonestrwydd arholiadau i’w cynnal yn y dyfodol eu peryglu gan sylwadau’r arholwyr
- ni fyddai dirprwyon ar gwrs hyfforddi CBAC wedi cael mantais annheg o gwbl o’r cyngor a dderbyniwyd: mae’r wybodaeth a ddarparwyd ar gael i bob athro, nid yn unig y rhai oedd wedi mynychu’r cwrs
“..Roedd y geiriau a ddefnyddiwyd gan yr arholwyr TGAU Hanes wrth gyflwyno cyngor i’r dirprwyon ar y cwrs a fynychwyd gan y Daily Telegraph yn annerbyniol ac yn amhriodol,” meddai CBAC.
‘Ddim yn nodweddiadol’
Fe ddywedodd yr elusen nad yw’r enghraifft hon – “gan ddau unigolyn o gyfanswm o 5,000 a mwy o arholwyr sy’n gweithio i CBAC – yn nodweddiadol o gynnwys proffesiynol y cyrsiau hyfforddi a ddarparwn i athrawon yng Nghymru a Lloegr.”
Gan ystyried y wybodaeth a dderbyniwyd hyd yn hyn gan y Daily Telegraph, trafodaethau ag Ofqual ac eraill sydd ynghlwm â’r mater, mae CBAC wedi dweud y byddent yn gweithredu fel a ganlyn:
- Byddwn yn monitro cyrsiau datblygiad proffesiynol yn y dyfodol, er enghraifft drwy recordio’r rhain a sicrhau bod staff hŷn yn mynychu sampl cynrychioliadol ohonyn nhw
- Byddwn yn gwella ansawdd y cyngor a’r arweiniad sy’n cael eu darparu i’r rhai sy’n cyfrannu at y cyrsiau ac yn adolygu ein trefniadau cytundebol â nhw
- Byddwn yn adolygu’r defnydd o batrymau enghreifftiol o arholiadau’r gorffennol sy’n cael eu trafod fel rhan o’r cyrsiau
- Byddwn yn parhau â’r drefn drylwyr sydd gennym o wirio ein holl fanylebau a deunyddiau cefnogi, fel rhan o’n prosesau gwella parhaus
Byddent hefyd yn “cynnal adolygiad llawn o resymeg, nodau, dulliau cyflwyno a rheoliadau ein rhaglen DPP, a byddem yn croesawu unrhyw adolygiad ar y cyd i’r maes hwn, y gallai fod yn fuddiol i’r rheoleiddwyr ei gychwyn”.
Gellir darllen ymateb diweddaraf CBAC yn llawn ar eu gwefan – <http://www.cbac.co.uk/index.php?nav=14&news=193>