Mae llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig wedi dweud bod cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan  am gynnal cynlluniau peilot i ddifa moch daear yn Lloegr yn “embaras pellach i Lywodraeth Lafur Cymru.”

Daw sylwadau’r AC ar ôl cyhoeddiad Ysgrifennydd Amgylchedd heddiw y bydd dau gynllun peilot chwe wythnos mewn ardaloedd gwahanol yn cael ei werthuso gerbron panel o arbenigwyr cyn penderfynu a ddylid cyflwyno trwyddedau i ddifa moch daear ar draws Lloegr.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Amgylchedd Caroline Spelman, byddai brechlyn ar gyfer y clefyd yn cymryd gormod o amser i ddatblygu a byddai’n anodd ei roi i foch daear gwyllt. Mae disgwyl y bydd y difa’n arwain at ostyngiad o 16% mewn achosion o’r diciâu mewn gwartheg.

‘Embaras’

Ond, yn ol Llŷr Huws Gruffydd AC “mae’r cyhoeddiad yn embaras pellach i Lywodraeth Lafur Cymru, gan ei fod yn amlygu eu polisi hwy o wneud dim”.

Gyda Gweinidog Plaid Cymru yn Llywodraeth flaenorol Cymru – dywedodd fod gan Gymru “gynllun cynhwysfawr i ddileu’r diciâu mewn gwartheg.”

“Yn awr dan Lafur, mae’r cynlluniau difa wedi eu hatal a dyma’r Gweinidog yn gwrthod dweud beth, os o gwbl, y bwriada wneud am y broblem enfawr hon i’n hardaloedd gwledig,” meddai.

‘Ansicrwydd trist’

“Er na fuaswn yn argymell mabwysiadu holl fanylion cynllun Llywodraeth y DG yng Nghymru, yr ydym bellach yn wynebu sefyllfa lle gall ffermwyr dros Glawdd Offa obeithio bod rhywun yn mynd i’r afael â’r broblem.

“Ac eto yng Nghymru, mae Llafur wedi peri bod ansicrwydd trist yn y diwydiant amaethyddol ynghylch problem y diciâu mewn gwartheg, a bod y sefyllfa hon yn parhau heb ddim yn cael ei wneud,” meddai’r AC.

“Dylai Llafur fod  a chywilydd eu bod wedi siomi pobl Cymru eto fyth trwy eu hanallu neu eu hamharodrwydd i weithredu ar un o’n problemau mwyaf dyrys,” meddai.

Ddydd Llun, roedd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, wedi ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, John Griffiths er mwyn mynegi ei “siom eithriadol” fod y penderfyniad dros ddifa moch daear wedi ei ohirio eto.