Mae Cyngor Tref Porthmadog wedi ysgrifennu at y Grid Cenedlaethol i “ofyn am fwy o wybodaeth” ynghylch dogfen ymgynghorol sy’n sôn am osod peilonau newydd o Bentir, i   Borthmadog, Traws a’r Bala, meddai Cynghorydd wrth Golwg360.

Mae aelodau o’r cyngor yn “gwrthwynebu gosod peilonau uwchben y ddaear,” meddai Alwyn Gruffydd, cynghorydd ardal Porthmadog.

Roedd yn siarad ar ôl cyfarfod Cyngor Tref i drafod y mater neithiwr.

“Y broblem sydd gen i, pan osodwyd y peilonau gwreiddiol yn y 60au ar gyfer Trawsfynydd – mi enillodd Cyngor Tref Porthmadog achos llys.  Roedd yr achos yn mynnu bod rhaid i’r gwifrau trydan fynd dan y ddaear drwy Ddyffryn Madog, dan Draeth Mawr, dan Aber Afon Glaslyn…” meddai Alwyn Gruffydd.

Dywedodd fod y Cyngor eisiau mwy o wybodaeth am y cynlluniau. Mae gosod peilonau uwchben y ddaear ac o dan y ddaear yn opsiynau, ond mae’r Cyngor am wybod mwy am y cynlluniau a’u goblygiadau.

“I’w rhoi nhw dan y ddaear, mae angen twnnel newydd – allen nhw fod wedi  gwneud hynny  wrth wneud y ffordd osgoi newydd ‘ma,” meddai.

‘Dim trafodaeth – dim ymgynghoriad’

Dywedodd nad yw’r Cyngor Tref wedi cael “unrhyw drafodaeth neu ymgynghoriad” ar y mater cyn hyn.

“Rydan ni eisiau gwrthwynebu gwifrau’n mynd uwchben y ddaear ar draws Traeth Mawr a Dyffryn Madog,” meddai.

“Mae bob dim o arian datblygu economaidd Cyngor Gwynedd bron yn mynd at baratoi at Wylfa B. Does dim sicrwydd ariannol o Wylfa B. Dyw’r Almaenwyr ddim am ddod â’r arian. Yr unig bobl sydd â’r arian am y math hwn o fenter yn awr yw’r Rwsiaid,” meddai.

“Mae ’na gynsail wedi’i osod yn y 60au ers yr achos llys y byddai peilonau yn ymyrryd â’r dirwedd petai nhw’n cael eu gosod dros Draeth Mawr a thrwy Ddyffryn Madog. Felly, rydan ni eisiau’r cynsail yna gael ei gadw,” meddai.