Chaz Davies
Mae Chaz Davies wedi cael ei enwi yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2011 yn dilyn canlyniadau pleidlais gyhoeddus.
Cafodd y canlyniad ei ddatgelu ar deledu, radio a gwasanaethau ar-lein BBC Cymru heno.
Cyhoeddwyd y wobr yn seremoni wobrwyo Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2011, gafodd ei chynnal yn Stadiwm Liberty, Abertawe, yn gynharach heno, i ddathlu’r flwyddyn ddiwethaf ym myd Chwaraeon Cymru.
Gwireddwyd potensial aruthrol Chaz, y gyrrwr beiciau modur, yn 2011 wrth iddo ennill Pencampwriaeth y Byd Supersport. Ac yntau bellach yn 24 oed, ef oedd y Cymro cyntaf i ennill teitl dosbarth Superbike y byd. Enillodd goron y bencampwriaeth gyfan yn y gyfres 12 gêm yn ras olaf ond un y tymor yn Magny Cours, Ffrainc. Mae’r pencampwr Supersport hefyd yn un o gyn enillwyr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru.
Gwobrwywyd tîm y flwyddyn yn y digwyddiad hefyd, a rhoddwyd gwobr Cyfraniad Oes a gwobrau Chwaraewr Ifanc a Chwaraewraig Ifanc y flwyddyn Carwyn James.
Dyma enillwyr y prif wobrau:
Tîm y Flwyddyn: Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe
1 Gwobr Cyfraniad Oes: Anne Ellis OBE
2 Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Carwyn James: Rhys Pugh
3 Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James: Angel Romaeo
Tîm y Flwyddyn: Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe
Dan Brendan Rodgers, Dinas Abertawe oedd y tîm cyntaf o Gymru i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, a dychwelyd i’r lefel uchaf eleni dim ond wyth mlynedd ar ôl osgoi disgyn o’r Gynghrair Bêl-droed.
Cyflawniad Oes: Anne Ellis OBE
Mae un o hoelion wyth y byd hoci i fenywod, Anne Ellis, o Abertawe yn wreiddiol, wedi ymwneud â chwaraeon ar y lefel uchaf am bron i 50 mlynedd, fel chwaraewr hoci, hyfforddwr a gweinyddwr. Mae’n dal i helpu yn ei chlwb lleol bob penwythnos.
Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Carwyn James: Rhys Pugh
Fe wnaeth Rhys Pugh, y golffiwr o Gymro 17 oed o Bontypridd, ennill Pencampwriaeth Amatur Iwerddon ac ennill pob un o’i dair gêm yng ngemau buddugoliaethus Cwpan Walker eleni. Mae bellach yn astudio ym Mhrifysgol East Tennessee State.
Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James: Angel Romaeo
Fe wnaeth y gymnast Angel Romaeo ennill medal aur, arian ac efydd yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Ynys Manaw fis Medi.