Ffred ar y dde
Mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru eisiau i bobol gysylltu gyda nhw er mwyn cofnodi a chadw enwau Cymraeg ar gof a chadw am byth.
“Mae enwau Cymru’n rhai hynafol ac arbennig iawn ac mae angen eu gwerthfawrogi a’u diogelu – ar frys. Rydym wedi cynefino â’r syniad o gadwraeth adeiladau a’r amgylchfyd ond mae cadwraeth enwau’n syniad mwy dieithr,” meddai Rhian Parry, cydlynydd y pwyllgor llywio.
Yn gynharach eleni fe aethpwyd ati yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i sefydlu’r gymdeithas dan ofalaeth Alun Ffred Jones AC. Bwriad y gynhadledd oedd hybu ymwybyddiaeth, astudiaeth a dealltwriaeth o enwau lleoedd yng Nghymru.
Achubwyd ar y cyfle i greu fforwm cenedlaethol i gasglu’r enwau dan un corff.
Nôd y gymdeithas yw cefnogi unigolion a grwpiau i gofnodi, dadansoddi a dehongli enwau lleoedd a lladaenu gwybodaeth am enwau lleoedd.
Mae’r gymdeithas yn gwahodd unrhyw un sydd â ddiddordeb mewn amryw o bethau boed yn cefnogi gwaith ysgolion, creu gweithgareddau lleol, casglu a chofnodi enwau neu unrhyw syniadau ychwanegol ar gyfer y gymdeithas.
Cysylltwch â Rhian Parry, Tŷ Tandderwen, Pencefn, Dolgellau, Gwynedd LL40 2ER. (01341423144)
Gwelir hefyd gwefan y Gymdeithas ar www.cymdeithasenwaulleoeddcymru.org