Darren Millar

Mae angen mynd i’r afael â’r bwlch cynyddol rhwng hyd oes pobl mewn ardaloedd cyfoethog a rhai difreintiedig, yn ôl y Ceidwadwyr heddiw.

Yn ôl ffigyrau newydd sydd wedi eu cyhoeddi, mae’r bwlch wedi bod yn lledu rhwng disgwyliad oes pobl mewn ardaloedd mwy cyfoethog a disgwyliad oes pobl mewn ardaloedd mwy tlawd yng Nghymru dros y ddegawd diwethaf.

Mae’r ffigyrau wedi eu cyhoeddi mewn adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac maen nhw’n dangos fod pobol sy’n byw mewn rhannau mwy cyfoethog o Gymru’n byw hyd at 19 mlynedd yn hirach na’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Yn ôl yr adrodiad, mae pobol ar draws Cymru “yn byw yn hirach, ac yn byw â iechyd da am hirach. Ond dyw’r gwelliannau iechyd hyn ddim wedi eu dosbarthu’n gyfartal ar draws ein cenedl.”

Alcohol yn broblem

Yn ôl yr astudiaeth, mae’r gwahaniaethau mwyaf mewn anghydraddoldeb i’w gweld yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Mae marwolaethau oherwydd alcohol 3.5 gwaith yn uwch i ddynion mewn ardaloedd difreintiedig, a dwy waith yn uwch i fenywod yn yr ardaloedd hyn.

Mae’r marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu yng Nghymru yn gyffredinol, ond dyw’r cynnydd ei hun ddim yn adlewyrchu gwahaniaethau amlwg o ran ardaloedd tlawd a chyfoethog.

Mae hyn yn wahanol i nifer y marwolaethau yn sgil ysmygu, sydd wedi gostwng yn gyffredinol yng Nhgymru. Ond mae marwolaethau yn gysylltiedig ag ysmygu yn dangos mwy o wahaniaeth rhwng ardaloedd tlawd a chyfoethog – gyda menywod mewn ardaloedd tlawd yn cael eu heffeithio’n sylweddol.

Y sefyllfa’n gwaethygu?

Yn ôl Llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Darren Millar, dyw strategaeth Llafur i wella’r gwasanaeth iechyd “ddim yn gweithio,” ac mae’n rhybuddio fod “toriadau i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd yr wythnos hon yn golygu bod eu record yn debygol o fod hyd yn oed gwaeth.”

O’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru, yng Ngheredigion mae’r disgwyliad oes hiraf yn y wlad, tra bod dynion yn marw’n ifancach, ar gyfartaledd, ym Merthyr Tudful, a menywod yn marw’n ifancach ym Mlaenau Gwent.

Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos mai 77.6 mlynedd oedd hyd bywyd disgwyliedig i ddynion yng Ngymru rhwng 2008 a 2010, ac 81.8 mlyned i fenywod.

O safbwynt Prydeinig, mae pobol yn marw’n ifancach yng Nghymru nag yn Lloegr, ond yn byw’n hirach yma nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

‘Caeth mewn rhigol’

Yn ôl Darren Millar, mae rhai cymunedau yn “gaeth mewn rhigol” ac mae’n “gywilyddus nad oes yna welliannau sylweddol wrth fynd i’r afael ag anghyfiawnderau iechyd ac anghyfartaledd yn y ddegawd ddiwethaf.”

Mae’r Aelod Cynulliad nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gau’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd, a’i wneud yn flaenoriaeth iddyn nhw.

“Mae angen gwella’r ddarpariaeth wybodaeth am roi’r gorau i ysmygu, bwyta’n iach ac ymarfer corff, a’u targedu at y rheiny sy’n dioddef fwyaf.

“Gyda’r strategaethau cywir yn eu lle, fe allwn ni gau’r bwlch a sicrhau fod iechyd ein cenedl yn gwella.”