Mae Tesco wedi cyhoeddi gostyngiad yn eu gwerthiant am y pedwerydd chwarter yn olynol heddiw er gwaetha eu hymgyrch £500 miliwn i dorri prisiau nwyddau.

Yn yr DU, lle mae gan y cwmni 2,700 o archfarchnadoedd, mae Tesco wedi gweld gostyngiad o 0.9% mewn gwerthiant a yn y 13 wythnos hyd at 26 Dachwedd.

Er gwaetha’r gostyngiad, dywed Tesco bod canlyniadau eu hymgyrch i dorri prisiau 3,000 o nwyddau bob dydd yn “addawol”.

Mae Tesco hefyd wedi gweld gostyngiad mewn gwerthiant yn Asia, o 7.5% i 1.4% yn Thailand wrth i’r llifogydd orfodi Tesco i gau 165 o’u siopau ar draws y wlad.

Roedd cyfranddaliadau wedi gostwng 1% yn dilyn y cyhoeddiad.