Awyren Jodel tebyg i'r un fu yn y ddamwain
Fe allai rhew yn yr injan fod wedi achosi i awyren fechan golli pŵer, gan ladd y peilot, yn ôl adroddiad i’r ddamwain heddiw.

Bu farw Geoffrey Claxton, 73 oed, tra’n ceisio glanio’r awyren mewn cae, yn ôl adroddiad yr ymchwiliad.

Roedd yr awyren wedi taro yn erbyn coed ac yna cebl trydan tra’n ceisio glanio ar 13 Fawrth ym Mhengelli-ddrain ger Abertawe.

Daeth yr awyren Jodel i lawr a glanio ar ei phen i lawr, gan ladd Geoffrey Claxton o Donysguboriau. Cafodd ei gyd-beilot, 48 oed, o Gaerdydd ei anafu’n ddifrifol.

Roedd y ddau yn hedfan o faes awyr Caerdydd i faes glanio yn Hwlffordd yn Sir Benfro.

Yn ôl yr adroddiad, mae’n debyg bod y carbwradur wedi rhewi gan achosi i’r awyren golli pŵer.

Roedd Geofffrey Claxton wedi bod yn aelod o glwb hedfan Aero yng Nghaerdydd ac wedi cael trwydded peilot ers 1979.