Martin Shewring
Mae ymgyrchwyr sy’n ceisio achub canolfan ddydd i’r henoed rhag cael ei dymchwel gan gynlluniau i adeiladu Tesco yn y dre yn dweud eu bod yn pryderu am effaith y newid ar yr henoed a phobol fregus yr ardal.

Wrth gyflwyno deiseb mewn gwrthwynebiad i’r cynlluniau heddiw, dywedodd cadeirydd Grŵp Achub Canolfan Ddydd Coedlan y Parc, Gerald Morgan, fod y bwriad i gau’r ganolfan yn achosi pryder mawr i ddefnyddwyr a’u teuluoedd.

“Ry’n ni’n gobeithio y bydd pob cynghorydd yn talu sylw i’r gofid amlwg a’r drwgdeimlad sydd wedi ei greu gan y cynlluniau ymhlith nifer o bobol yr ardal sy’n cael eu gwasanaethu gan y Ganolfan Ddydd,” meddai.

Y bore ’ma aeth dwsin o’r ymgyrchwyr i swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion yn Aberaeron i gyflwyno deiseb gyda 5,797 o lofnodion arni i Brif Weithredwr y Cyngor, Bronwen Morgan, ac Arweinydd y Cyngor, Keith Evans.

“Ry’n ni wedi llwyddo i gasglu bron i chwe mil o enwau mewn prin pum mis,” meddai Gerald Morgan, sy’n gyn-weithiwr gyda’r cyngor, ond sydd bellach, fel nifer o’r ymgyrchwyr, yn dibynnu ar wasanaeth y ganolfan ddydd ar gyfer eu hunain neu ar gyfer aelodau o’u teulu.

“Mae defnyddwyr y ganolfan yn gwybod am y cynlluniau sydd ar waith i ddatblygu’r safle,” meddai Gerald Morgan, “ac maen nhw’n pryderu.”

Symud safle


Ymgyrchwyr tu allan i Gyngor Ceredigion
Mae’r Cyngor Sir wedi cynnig y gall y ganolfan ddydd symud i ystafell o dan Neuadd y Dref yn Aberystwyth pan fydd Coedlan y Parc yn cael ei dymchwel. Ond mae’r ymgyrchwyr yn anhapus â hynny.

Yn ôl Martin Shewring, un o’r ymgyrchwyr, byddai lefel y gwasanaeth sydd ar gael yn y lleoliad newydd yn cael ei dorri i lai na’r hanner.

“Maen nhw wedi cynnig y syniad ’na i ni fel after-thought,” meddai, “yn lle trafod gyda ni o’r lle cyntaf.”

Mae’n dweud bod y cwmni datblygu sy’n gweithredu ar ran Tesco, Chelverton, wedi cynnig adeiladu canolfan newydd i’r henoed yn Aberystwyth os yw’r Cyngor Sir yn fodlon rhoi tir iddyn nhw. Ond hyd yn hyn does dim trafodaeth wedi bod yn y Cyngor ar wneud hynny.

“Petai’r Cyngor wedi dod aton ni i drafod symud y ganolfan yn y lle cyntaf, falle fydden ni ddim yn y sefyllfa ’ma nawr,” meddai wrth Golwg 360.

“Ond dim ond edrych ar dorri costau ma’r Cyngor Sir yn neud,” meddai Martin, “maen nhw’n benderfynol o wario llai.”

Mae’r ymgyrchwyr yn dweud fod yr ystafell dan Neuadd y Dref yn darparu llawer llai o le, a llawer iawn yn llai na’r lle sydd ei angen i’r holl bobol sy’n mynychu’r ganolfan ddydd ar hyn o bryd.

“Mae ardal yr ystafell llai na hanner y ganolfan bresennol,” meddai Gerald Morgan, “a bydd llai o le yn golygu y bydd llawer o’r defnyddwyr mwyaf bregus yn cael eu hatal rhag defnyddio’r gwasanaeth, ac yn cael effaith mawr ar eu gofalwyr.”

Maen nhw hefyd yn dweud bod y gwasanaeth ymolchi sy’n bosib yn y ganolfan bresennol yn amhosib yn Neuadd y Dref. Mae 25 o bobol yn defnyddio’r gwasanaeth hyn yn wythnosol ar hyn o bryd, ond mae’n debyg na fydd hi’n bosib i ofalwyr roi’r gwasanaeth hyn yn Neuadd y Dref gan nad oes bath yno gyda theclyn i godi pobol fregus i mewn ac allan.

Ddim yn erbyn datblygu

Mae’r ymgyrchwyr yn mynnu nad ydyn nhw yn erbyn gweld Tesco yn dod i dre Aberystwyth, nac unrhyw ddatblygiad masnachol arall.

“Ma’ 80% o’r prosiect yn mynd i fod yn help mawr i Aberystwyth,” meddai Martin Shewring, “ond ma’ 20% o’r prosiect yn mynd i gael effaith mawr ar bobol fregus yr ardal.”

Mae bron i 100 o bobol yn defnyddio’r ganolfan ddydd yng Nghoedlan y Parc, yn Aberystwyth, yn wythnosol erbyn hyn. Ond mae’r ymgyrchwyr yn pryderu y bydd llai na hanner rhain yn medru cael eu gwasanaethu yn yr ardal os yw’r bwriad i ddymchwel Coedlan y Parc yn cael ei wireddu gan y cynllun i godi archfarchnad Tesco newydd ar y lleoliad.