Gary Speed
Fe fydd angladd Gary Speed yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon, dywedodd Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair (LMA).

Fe fydd yr angladd preifat yn cael ei gynnal yng Nghymru ar gyfer teulu a ffrindiau agos, drwy wahoddiad yn unig.

Ond mae  gwasanaeth coffa cyhoeddus i reolwr tîm pêl-droed Cymru yn cael ei drefnu ar gyfer y flwyddyn newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y LMA: “Hoffai Louise Speed a’i theulu fynegi eu gwerthfawrogiad am y teyrngedau lu i Gary gan y cyhoedd a’r cyfryngau.

“Mae Louise Speed yn ddiolchgar iawn hefyd am y ffordd mae’r cyfryngau wedi parchu preifatrwydd y teulu yn ystod amgylchiadau anodd iawn.

“Mae hi hefyd yn ymwybodol iawn o’r ffordd yr oedd Gary wedi cyffwrdd bywydau cymaint o bobol ac y byddai pob un yn hoffi diolch iddo am y llawenydd a roddodd iddyn nhw.

“O ganlyniad fe fydd gwasanaeth coffa i ddathlu bywyd Gary yn digwydd yn fuan a’r gobaith yw y bydd hyn yn caniatáu i gymaint â bobl â phosib dalu teyrnged i Gary.”

Cafwyd hyd i gorff Gary Speed, 42, yn crogi yn ei gartref yn Sir Gaer fis diwethaf.

Dylai unrhyw roddion er cof amdano gael eu hanfon unai at y

Sir Bobby Robson Foundation neu John Hartson Foundation drwy www.sirbobbyrobsonfoundation.org.uk/contact-us a http://www.johnhartsonfoundation.com/contact.asp