Mae Aelod Seneddol De Clwyd wedi ysgrifennu at sefydliad Digital UK yn galw am wybod pam bod pobol leol yn methu derbyn darllediadau Cymraeg a Saesneg ar eu setiau teledu.
Sefydliad dielw a ffurfiwyd gan y darlledwyr i gynorthwyo defnyddwyr yn y newid i deledu digidol yw Digital UK.
“Mae fy etholwyr i yn pryderu’n fawr nad ydyn nhw’n gallu derbyn BBC1, BBC2, ITV Wales , S4C, Radio Wales na Radio Cymru,” meddai Susan Elan Jones, AS Llafur. Dywedodd bod y sefyllfa yn “warthus”.
“Dw i’n gwybod am bobl sydd wedi ffonio Digital UK ac wedi cael cyfarwyddyd nawddoglyd i ail-diwnio eu setiau teledu. Maen nhw’n gwneud hyn – ac wrth gwrs, dydyn nhw dal methu cael y sianeli y dylen nhw gael,” meddai’r AS.
“Fe ddywedodd un dyn nad ydy Digital UK yn cymryd ein hunaniaeth Gymreig o ddifrif.”
Mae’r AS yn dweud bod angen i’r cwmni “fynd i’r afael a’r sefyllfa” a’i ddatrys yn fuan. “Os nad ydyn nhw – fe fydda i yn mynd a’r mater ymhellach,” meddai.
Digital UK
Fe wnaeth Digital UK gadarnhau wrth Golwg360 eu bod wedi derbyn llythyr gan Susan Elan Jones AS yn son am broblemau etholwyr gyda derbyniad teledu.
“Yn dilyn newid technegol yn nhrosglwyddydd Mynydd Hir ar 19 Hydref, efallai na fydd rhai gwylwyr yn Wrecsam bellach yn gallu derbyn sianeli teledu Cymraeg o’r trosglwyddydd Cefn Mawr,” meddai’r llefarydd.
“Nid oedd y cartrefi hyn yn cael eu gwasanaethu yn swyddogol gan Cefn Mawr a doedden ni ddim yn rhagweld y byddent yn derbyn gwasanaeth dibynadwy o’r trosglwyddydd.
“Yn yr achosion hynny lle mae gwylwyr wedi colli sianeli ac yn methu eu hadfer ar ôl ail-diwnio offer, mae Digital UK yn argymell ymgynghori â chyflenwyr gosod teledu iddyn nhw osod yr erial yn gydnaws a’r trosglwyddydd cywir,” meddai’r llefarydd.
Gall gwylwyr hefyd ystyried “opsiynau amgen ar gyfer gwasanaethau digidol fel freesat,” meddai’r llefarydd.