Glyn Davies
Mae Aelod Seneddol wedi awgrymu y gallai’r BBC symud S4C i Fryste er mwyn arbed arian.

Daw ei sylwadau yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl i’r gorfforaeth benderfynu torri 150 o swyddi yn Birmingham a symud yr Uned Ffeithiol i Fryste.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Valerie Vaz , o etholaeth Walsall South, i’r gogledd o Birmingham, y gallai S4C gael ei symud yn yr un modd.

“Fy mhryder i yw, ar ôl symud swyddi i Fryste, y bydd S4C hefyd yn gorfod darlledu oddi yno yn hytrach nag o Gymru er mwyn arbed costau,” meddai yn Nhy’r Cyffredin.

Ond wfftiodd yr AS Ceidwadol, Glyn Davies, yr awgrym gan ddweud nad oedd unrhyw un wedi meddwl o ddifrif y byddai S4C yn cael ei symud dros y ffin.

“Rydw i’n gallu gweld y byddai yn gwneud synnwyr o safbwynt y cyfrifydd,” meddai Glyn Davies.

“Ond roedden ni wedi cael dipyn o sioc wrth glywed hynny. Dydw i ddim yn gallu credu y byddai unrhyw un yn gallu awgrymu gwneud hynny – hyd yn oed wrth dynnu coes.”

Ymatebodd Valerie Vaz gan ddweud nad oedd symud S4C i Fryste “ar yr agenda” ond “drwy dynnu sylw at hynny y byddai modd ei atal”.