Ben a Catherine Mullany
Bydd rhaid i rieni pâr priod o Gymru gafodd eu lladd ar eu mis mêl ddisgwyl nes y flwyddyn newydd er mwyn gweld dedfrydu eu llofruddwyr.
Cafodd Ben a Catherine Mullany o Bontardawe, oedd yn 31oed, eu saethu mewn chalet ar ynys Garibïaidd Antigua yn 2008, pythefnos yn unig ar ôl priodi.
Cafwyd Kaniel Martin, 23, ac Avie Howell, 20, yn euog o’r llofruddiaethau ym mis Gorffennaf, tair blynedd i’r diwrnod ers y saethu, yn dilyn oedi mawr cyn dechrau’r achos llys.
Roedd teuluoedd Ben a Catherine Mullany wedi gobeithio gweld y llofruddion yn cael eu dedfrydu neithiwr ar ôl i Uchel Lys Antigua dderbyn eu hadroddiadau seiciatrig.
Ond ddoe clywodd y llys fod timoedd amddiffyn Kaniel Martin ac Avie Howell yn anghytuno â rhannau o’r dadansoddiad seiciatrig ac eisiau dadlau eu hachos yr wythnos nesaf.
Daw hynny ar ôl oedi pellach mis diwethaf ar ôl i fargyfreithiwr Kaniel Martin, Marcus Foster, deimlo’n sâl.
Dywedodd y Barnwr Ffloyd ei fod eisiau “ystyried y mater yn llawn” ac awgrymodd na fyddai’r achos yn dod i ben nes dechrau 2012.
Fe allai’r ddau wynebu’r gosb eithaf am y llofruddiaethau.
Siom
Dywedodd cyfeillion rhieni Ben Mullany, Marilyn a Cynlais, eu bod nhw’n siomedig iawn wrth glywed y newyddion.
“Maen nhw wedi gorfod ymdopi ag un oediad ar ôl y llall ers i’r ddau yna gael eu cyhuddo o lofruddiaeth dros dair blynedd yn ôl,” meddai cyfaill.
“Maen nhw’n derbyn, wrth gwrs, fod angen gwneud pethau’n iawn – ond maen nhw eisiau symud ymlaen gyda’u bywydau.
“Ni fydd modd anghofio Ben a Cath ond fe fyddai dod a’r achos llys i ben yn rhyddhad iddyn nhw.
“Maen nhw’n teimlo fod y llofruddwyr yn cael gormod o ystyriaeth a theuluoedd y rheini fu farw yn cael dim.”
Yr achos llys
Roedd Ben and Catherine Mullany wedi bod yn Antigua ar bythefnos o fis mêl wedi eu priodas yn Eglwys Sant Ioan yr Efengylwr yng Nghilybebyll ar 12 Gorffennaf.
Bu farw Catherine Mullany yn syth ar ôl cael ei saethu yn ei phen. Bu farw ei gŵr deuddydd yn ddiweddarach, ar ôl iddo gael ei hedfan yn ôl i Gymru ar beiriant cynnal bywyd.
Dros flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Awst 2009, cyhuddwyd Kaniel Martin ac Avie Howell o lofruddio Ben a Catherine Mullany, cyn wynebu cyhuddiad arall o ladd y perchennog siop 43 oed, Woneta Anderson.
Roedd y ddau ddiffynnydd wedi gwrthod ateb unrhyw gwestiynau yn y llys ac wedi honni eu bod nhw’n ddieuog drwy gydol yr achos deufis o hyd.
Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd dros 90 o lygaid-dystion wedi rhoi tystiolaeth.
Cafwyd y ddau yn euog gan reithgor yn Uchel Lys Antigua yn St John’s ar 28 Gorffennaf.