Dywedodd golygydd  y Western Mail heddiw wrth Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd nad oedd unrhyw fwriad i’r papur dyddiol fynd yn wythnosol.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Media Wales Alan Edmunds nad oedd na fwriad chwaith i werthu’r Western Mail. Roedd yn dweud bod Cymru angen gwasanaeth newyddion “masnachol, annibynnol a phreifat.”

Roedd yn ymateb i awgrymiadau Bethan Jenkins AC y dylai’r Western Mail gael ei roi mewn perchnogaeth gyhoeddus a’i droi’n fenter gydweithredol.

Dywedodd Bethan Jenkins AC wrth Golwg360 ei bod yn “ddiolchgar i Alan Edmunds am gymryd yr amser i ddod i mewn ac esbonio, mewn peth manylder, yr her sy’n wynebu Media Wales a sut y mae’r cwmni yn delio â hwn.”

Ond dywedodd y byddai’n “drueni os bydd rhywun fel Alan Edmunds yn tanseilio syniadau newydd yn gyflym” heddiw.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Bethan Jenkins o Blaid Cymru, mae angen meddwl am atebion “gwirioneddol radical” er mwyn achub y wasg yng Nghymru. Fe fyddai ei hawgrym hi’n golygu bod y Llywodraeth yn dod i’r adwy ac ymyrryd i achub y Western Mail sydd wedi gweld ei gylchrediad yn cwympo i tua 26,000.

Perchnogaeth gyhoeddus

Ond, yn dilyn sylwadau’r golygydd heddiw, mae’r AC yn dadlau yn erbyn “yr honiadau mae Alan Edmunds yn gwneud nad oes llawer o sylwedd i’n sylwadau ar berchnogaeth gyhoeddus.”

“Mae modelau arian cyhoeddus ar gyfer papurau newydd yn bodoli mewn gwledydd ledled Ewrop. Mae Norwy, Sweden a Ffrainc yn rhai o’r gwledydd sydd wedi gweld cynnydd cylchrediadau o ganlyniad i gymryd y llwybr hwn,” meddai Bethan Jenkins.
“Mae’r syniad i mi roi allan yno – dim ond syniad – wedi ysbarduno trafodaeth flaengar, a byddai’n drueni os bydd rhywun fel Mr Edmunds yn tanseilio syniadau newydd mor gyflym.

“Rwy’n sylweddoli bod ganddo fuddiannau masnachol i ystyried. Ond rwyf hefyd yn nodi ei barodrwydd i weithio gyda rhanddeiliaid ac yn gobeithio y bydd yn parhau i gymryd rhan yn y ddadl ynghylch dyfodol y cyfryngau yng Nghymru.