Mae gormod o ddynion ar y paneli sy’n cynghori’r Llywodraeth yng Nghymru, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae ymchwil diweddar gan y Demcratiaid Rhyddfrydol wedi datgelu fod llai nag un ym mhob pedwar o ymgynghorwyr y Gweinidog Busnes ar ddatblygu sectorau economaidd allweddol sy’n fenywod.
Yn ôl y ffigyrau hyn, dim ond 22% o ymgynghorwyr Lywodraeth Cymru sy’n fenywod, ac mae llefarydd y Demcratiaid Rhyddfrydol ar Fusnes a Menter wedi mynegi ei phryderon ynglŷn â chasgliadau’r ymchwil.
“Mae’n hynod siomedig i fi fod gymaint o aelodaeth y paneli yma’n cael eu rheoli gan ddynion,” meddai Eluned Parrott AC.
“Yn draddodiadol, mae diwydiannau Cymru wedi ffafrio dynion ond ro’n i’n gobeithio y byddai’r adferiad economaidd yn gyfle i daclo’r anghyfartaledd hanesyddol sy’n wynebu menywod mewn sectorau busnes allweddol.”
Ond mae’r ffigyrau’n datgelu fod 42 o ddynion ar baneli ymgynghorol gwahanol adrannau’r Llywodraeth, sef 78%, tra mai dim ond 12, neu 22%, sy’n fenywod.
‘Angen cydbwysedd’
“Byddai cael cydbwysedd mwy teg rhwng dynion a menywod ar y paneli ymgynghorol hyn wedi helpu sicrhau fod y math o faterion sy’n wynebu menywod wrth gael llwyddiant ym mhrif sectorau’r llywodraeth yn cael eu hateb.”
Does dim menywod ar y paneli sy’n cynghori’r gweinidog technoleg, ynni, amgylchedd a gweithgynhyrchu.
“Mae rhai o’r paneli yma yn cael eu rheoli gan ddynion er gwaetha’r ffaith fod y diwydiannau y maen nhw i fod i’w cynrychioli â dylanwadau benywaidd cryf,” meddai Eluned Parrott.
“Ond mae hefyd angen menywod i gynghori’r llywodraeth mewn sectorau sy’n draddodiadaol yn wrywaidd, fel adeiladu a gweithgynhyrchu, fel ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd i ddod dros stereoteipiau traddodiadol.”
Y panel ymgynghorol sydd agosaf at gael cyfartaledd dynion a menywod yw’r panel ar gyfer Bwyd ac Amaeth, lle mae pum dyn, a phedair dynes.
“Trwy gael lleisiau menywod ar y paneli hyn, gallwn ni sicrhau fod menywod yn cael y cyfle i lewyrchu ym mhob rhan o’r economi yng Nghymru yn y dyfodol.”