Lynette White
Mae’r achos yn erbyn wyth cyn-blismon, oedd wedi gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn yr ymchwiliad i garcharu tri dyn ar gam am lofruddiaeth Lynette White yng Nghaerdydd, wedi dymchwel.
Yn Llys y Goron Abertawe roedd y barnwr Mr Ustus Sweeney wedi gollwng y rheithgor ar ôl dyfarnu na fyddai’r diffynyddion yn cael achos teg.
Roedd wyth cyn blismon a dau arall wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, a arweiniodd at garcharu tri dyn ar gam.
Cefndir yr achos
Cafodd Lynette White, 20 ei thrywanu mwy ân 50 o weithiau yn ei fflat yn ardal y dociau yng Nghaerdydd yn 1988.
Cafodd Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris eu cyhuddo o’i llofruddio ym 1990 yn un o’r enghreifftiau mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder.
Ond yn 1992 cafodd dyfarniad y tri ei ddiddymu gan y Llys Apêl. Bu farw Yusef Abdullahi, 49, yn gynharach eleni.
Ym 2003 roedd Jeffrey Gafoor wedi pledio’n euog i lofruddio Lynette White a chafodd ei garcharu am oes.
Y cyhuddiadau
Roedd yr wyth diffynydd wedi eu cyhuddo o orfodi llygad-dystion i gytuno i dystiolaeth ffug ar ôl cael eu holi.
Yn eu plith roedd y cyn uwch-arolygydd Richard Powell a’r cyn brif arolygyddion Thomas Page a Graham Mouncher. Roedden nhw wedi eu cyhuddo o gynllwynio gyda Michael Daniels, Paul Jennings, Paul Stephen, Peter Greenwood a John Seaford, o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Roedd Violet Perriam a Ian Massey ynghyd â Graham Mouncher hefyd wedi eu cyhuddo o ddweud celwydd ar lw.
Roedd y deg diffynydd yn gwadu’r holl gyhuddiadau. Fe ddechreuodd yr achos ym mis Gorffennaf ac mae’n debyg ei fod wedi costio miliynau o bunnoedd.
Dywedodd Mr Usutus Sweeney bod yr achos yn “annheg” ac y byddai’n rhaid iddi ddod i ben.
Dywedodd bod amryw o broblemau wedi codi oherwydd ymddygiad yr erlyniad a’u “dyletswydd i ddatgelu gwybodaeth”.
Cafodd rheithfarnau dieuog eu cofnodi yn achos y deg diffynnydd.