Jeremy Clarkson
Mae undeb UNSAIN wedi dweud y dylai Jeremy Clarkson golli ei swydd gyda’r BBC heddiw ar ôl iddo ddweud y dylai’r streicwyr gael eu “saethu”.
Yn ôl undeb gweithwyr y sector cyhoeddus UNSAIN, maen nhw nawr yn cymryd cyngor cyfreithiol ynglŷn â’r sylwadau ac mae’n bosib y gallai’r heddlu gael eu galw i mewn.
Mae’r BBC wedi gorfod ymddiheuro ar ôl i Jeremy Clarkson ddweud fod angen “saethu” y streicwyr fu’n gwrthwynebu newidiadau’r Llywodraeth i bensiynau ddoe.
Tra’n ymddangos ar The One Show neithiwr, sy’n cael ei chyflwyno gan y Gymraes Alex Jones a Matt Baker, dywedodd y cyflwynydd BBC a’r colofnydd moduro y byddai’n hoffi “saethu” gweithwyr y sector cyhoeddus fu ar streic ddoe.
“Bydden i’n mynd â nhw allan a’u saethu nhw o flaen eu teuluoedd,” meddai Jeremy Clarkson, wrth i Alex Jones a Matt Baker edrych yn gynyddol anesmwyth ar y soffa, cyn ychwanegu y dylai’r streicwyr fynd allan i wneud “diwrnod iawn o waith.”
Heddiw, mae llefarydd ar ran y BBC wedi ymddiheuro am y sylwadau.
“Fe wnaeth The One Show ymddiheuro ar ddiwedd y rhaglen i unrhyw wylwyr a allai fod wedi cael eu pechu gan sylwadau Jeremy Clarkson.”
Ond mae’r sylwadau wedi cael eu beirniadu’n chwyrn gan aelodau o’r cyhoedd, gyda channoedd yn cwyno am ei sylwadau ar Twitter.
Mae rhai wedi cyhuddo Jeremy Clarkson o fod yn “fwriadol atgas” er mwyn tynnu sylw at ei hun, ac eraill yn gofyn iddo gofio fod y streicwyr yn ganran uchel o’r trethdalwyr sy’n talu cyflog uchel y cyflwynydd Top Gear gyda’r BBC.
Dywedodd UK UnCut wrth eu dilynwyr ar Twitter neithiwr: “Yn ôl Jeremy Clarkson, mae gyrru Ferrari o gwmpas ac ysgrifennu rhyw rwtsh yn y Sun unwaith yr wythnos yn cyfateb a diwrnod go iawn o waith.”
Gallwch weld rhai o sylwadau Jeremy Clarkson, a wnaed ar The One Show, isod.