Gary Speed
Mewn cyfweliad ychydig cyn ei farwolaeth, dywedodd rheolwr tîm pêl-droed Cymru Gary Speed mai ei wraig a’i blant oedd y peth pwysicaf yn ei fywyd.

Dywedodd y tad i ddau oedd yn 42 oed bod ei deulu yn golygu “popeth” iddo ac yn bwysicach nag unrhyw fedal roedd wedi ennill yn ystod ei yrfa disglair.

Roedd Gary Speed yn cael ei holi gan gylchgrawn FourFourTwo.

Ddoe, clywodd cwest i’w farwolaeth mai ei wraig oedd wedi darganfod ei gorff  yn crogi fore dydd Sul.

Cafwyd hyd i’w gorff  yn ei gartref yn Huntington, Sir Gaer.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Peter Lawless o Heddlu Sir Gaer wrth y crwner Nicholas Rheinberg bod corff Speed wedi ei ddarganfod gan ei wraig, Louise, ychydig cyn 7am.

Dywedodd nad oedd yn ymddangos bod unrhyw amgylchiadau amheus ynglŷn â’i farwolaeth a bod archwiliad post mortem yn dangos ei fod wedi marw o ganlyniad i grogi.

Cafodd y cwest ei ohirio tan Ionawr 30, 2012 a bydd yn cael ei gynnal yn Warrington.

Doedd neb o deulu Gary Speed yn bresennol yn y cwest.

Gofynnodd y crwner i’r wasg barchu preifatrwydd y teulu.

Dywedodd ei chwaer, Lesley Haycock ar Twitter bod ei brawd yn “ysbrydoliaeth.”

“Rydw i wedi colli fy mrawd, fy ffrind, fy ysbrydoliaeth,” meddai.

Mae teyrngedau yn dal i gael eu rhoi iddo ac mewn gem bel-droed neithiwr roedd cefnogwyr Leeds wedi bod yn gweiddi enw Speed yn ystod y gem yn erbyn Nottingham Forest.

Yn y cyfamser mae mwy na 10 o chwaraewyr pel-droed wedi cysylltu â sefydliad i’w helpu i ddod i delerau â marwolaeth Gary Speed.

Dywedodd Peter Kay, prif weithredwr y Sporting Chance Clinic wrth BBC Radio 5: “Mae mwy na 10 o chwaraewyr wedi cysylltu â fi ers i’r newyddion dorri. Mae hynna’n golygu bod 10 o bobl yn ceisio am help. Mae hynny’n nifer anarferol,”meddai.

Ddoe hefyd roedd Aelodau’r Cynulliad ym Mae Caerdydd wedi cael munud o dawelwch er cof am y cyn bel-droediwr.