Hayes ac Yeading 0–4 Casnewydd

Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth dda yn Uwch Gynghrair y Blue Square heno wrth guro Hayes ac Yeading oddi cartref yn Stadiwm Kingfield. Roedd hon yn gêm bwysig yn erbyn un o’r timau sydd yn agos atynt ar waelod y tabl a bydd y fuddugoliaeth gyfforddus yn siŵr o roi hyder iddynt.

Roedd Casnewydd ar dân mewn hanner cyntaf gwych yn Woking. Tarodd Danny Rose y postyn i’r tîm o Gymru wedi naw munud cyn rhoi’r ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd drwy’r hanner gydag ergyd gywir i gornel isaf y rhwyd.

Roedd hi’n ddwy saith munud cyn yr egwyl diolch i Sam Foley, y blaenwr yn sgorio gydag ergyd dda o du allan i’r cwrt cosbi.

Dichon y byddai Justin Edinburgh a’i dîm wedi bod yn ddigon bodlon gyda dwy gôl o fantais ar yr egwyl ond roedd pethau yn hyd yn oed gwell na hynny gan i Ismail Yakubu ychwanegu trydedd Casnewydd yn eiliadau olaf yr hanner. Peniodd yr amddiffynnwr i gefn y rhwyd yn dilyn croesiad Garry Warren er mwyn sicrhau mantais gyfforddus i’r ymwelwyr ar hanner amser.

Ychwanegwyd un gôl arall yn yr ail hanner, Yakubu’n penio’i ail o’r gêm gyda chwarter awr yn weddill yn dilyn croesiad Rose y tro hwn.

Mae’r tri phwynt yn codi Casnewydd uwch ben Hayes ac Yeading ac allan o safleoedd y gwymp i’r ugeinfed safle yn y tabl.