Caerdydd 2-0 Blackburn Rovers

Mae Caerdydd wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair wedi buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Blackburn Rovers heno.

Roedd hi’n noson drist iawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i’r teyrngedau i Gary Speed barhau, ond codwyd ychydig ar galonnau cefnogwyr pêl droed Cymru gyda buddugoliaeth dda i’r tîm o’r Brifddinas yn erbyn gwrthwynebwyr o’r Uwch Gynghrair.

Rhoddodd Kenny Miller yr Adar Gleision ar y blaen wedi 19 munud. Llwyddodd Caerdydd i amddiffyn cic gornel Blackburn cyn i Aron Gunnarsson wrthymosod a dod o hyd i Kenny Miller a gorffennodd yr Albanwr yn daclus wrth roi’r bêl drwy goesau’r gôl-geidwad, Mark Bunn

Bu bron i Miller ychwanegu ei ail ef ac ail ei dîm bum munud yn ddiweddarach ond er iddo guro Bunn unwaith eto daeth Scott Dann a’r postyn i’r adwy i achub Blackburn.

Bu rhaid i Tom Heaton fod yn effro i arbed ymdrechion Grant Hanley a David Dunn wedi hynny ond roedd Caerdydd yn gymharol gyfforddus ac yn haeddu eu mantais ar yr egwyl.

Dyblwyd y fantais honno yn fuan yn yr ail hanner. Dim ond pum munud o’r ail gyfnod a oedd wedi’i chwarae pan anelodd Peter Wittingham gic gornel tuag at y postyn pellaf. Daeth Bunn allan amdani ond methodd y bêl gan gyflwyno cyfle hawdd i’r amddiffynnwr, Anthony Gerrard i benio i gôl wag.

Cafodd Miller gyfle i sicrhau’r fuddugoliaeth toc wedi’r awr wedi i Gunnarsson ddod o hyd iddo unwaith eto ond methu’r targed a wnaeth y blaenwr y tro hwn.

Daeth cyfleoedd i Blackburn daro’n ôl yn y chwarter awr olaf ond methodd Dann gyda’i ben a Ruben Rochina gyda’i droed wrth i’r Adar Gleision ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Mae’r canlyniad gwych hwn yn rhoi Caerdydd yn rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair am y tro cyntaf ers tymor 1955/56. Yno, byddant yn wynebu un ai Lerpwl, Man City, Man U neu Crystal Palace a phwy a ŵyr, efallai y bydd cefnogwyr yr Adar Gleision yn trefnu trip arall i Wembley yn y flwyddyn newydd.