Gary Speed
Clywodd cwest i farwolaeth Gary Speed heddiw mai ei wraig oedd wedi darganfod ei gorff  yn crogi fore dydd Sul.

Cafwyd hyd i gorff rheolwr tîm pêl-droed Cymru, oedd yn 42 oed, yn ei gartref yn Sir Gaer.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Peter Lawless o Heddlu Sir Gaer wrth y crwner Nicholas Rheinberg bod corff Speed wedi ei ddarganfod gan ei wraig Louise ychydig cyn 7am.

Dywedodd nad oedd yn ymddangos bod unrhyw amgylchiadau amheus ynglŷn â’i farwolaeth a bod archwiliad post mortem yn dangos ei fod wedi marw o ganlyniad i grogi.

Cafodd y cwest ei ohirio tan Ionawr 30, 2012 a bydd yn cael ei gynnal yn Warrington.

Doedd neb o deulu Gary Speed yn bresennol yn y cwest.

Gofynnodd y crwner i’r wasg barchu preifatrwydd y teulu.

Yn gynharach heddiw roedd Aelodau’r Cynulliad ym Mae Caerdydd wedi cael munud o dawelwch er cof am y cyn bel-droediwr.