Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi enwi ei dim i wynebu Awstralia ddydd Sadwrn ac fe fydd Sam Warburton yn arwain y tîm.
Shane Williams fydd yn hawlio’r penawdau gan mae hon fydd ei gem olaf yn y crys coch, ond mae yna ddigon i’w drafod o ddewisiad Warren Gatland.
Ymhlith y blaenwyr mae’r prop Scott Andrews yn ennill ei ail gap ym mhen tin y sgrym oherwydd anaf Adam Jones. Gweli’r hefyd Ian Evans yn dychwelyd i’r ail reng wedi cyfnod o dair blynedd allan o gynlluniau’r tîm cenedlaethol.
O ran yr olwyr, gydag absenoldeb Mike Phillips sy’n methu gael ei rhyddhau gan ei glwb Ffrengig Bayonne, mae Lloyd Williams yn dechrau fel mewnwr. Gyda Jonathan Davies wedi anafu gwelir Scott Williams yn ymuno a Jamie Roberts yn safle’r canolwyr.
Gyda Warburton yn cadw cyfrifoldeb y gapteniaeth mae’r bachwr Matthew Rees yn ennill lle ar y fainc. Wedi disgleirio i’r Gleision y tymor yma mae’r asgellwr ifanc Alex Cuthbert wedi ei wobrwyo yn y garfan 22ain.
Y tîm yn llawn:
Olwyr: Leigh Halfpenny,George North, Scott Williams, Jamie Roberts, Shane Williams, Rhys Priestland, Lloyd Williams,
Blaenwyr: Gethin Jenkins, Huw Bennett, Scott Andrews, Bradley Davies, Ian Evans, Dan Lydiate, Sam Warburton (C), Toby Faletau
Eilyddion: Matthew Rees, Ryan Bevington, Ryan Jones, Justin Tipuric, Tavis Knoyle, Dan Biggar, Alex Cuthbert.