Mae Dreigiau Gwent Casnewydd wedi arwyddo’r canolwr Anitelea “Andy” Tuilagi o glwb Sale ar gytundeb dwy flynedd.
Mae’r gwr o Samoa, 25 mlwydd oed, sydd hefyd yn medru chwarae ar yr asgell, wedi gwneud 42 ymddangosiad i glwb Sale dros y tair tymor diwethaf, yn ogystal a chyfnod â chlybiau Caerlŷr a Leeds a chyn hynny yn rygbi’r gynghrair â St Helens.
Gobaith prif hyfforddwr y Dreigiau, Darren Edwards yw dod a chydbwysedd ymysg olwyr y rhanbarth.
“Mae gennym ni cryn dipyn o sgiliau a chyflymdra ymhlith ein olwyr, ac fe fydd Andy yn ychwanegu elfen gorfforol â’r gallu i fylchu fydd yn cyfoethogi’n carfan presennol.”
Wedi cryn dipyn o ddarogan ymhlith y wasg y misoedd diwethaf, mae’r Gwyr o Went wedi llwyddo i sicrhau llofnod Andy Tuilagi. Mewn datganiad ar eu gwefan dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi y Dreigiau, Rob Beale,
“Mae hwn wedi bod yn broses hir iawn i’r Dreigiau ac i Andy”.
“Rwy’n gwybod fod yna ddyfalu wedi bod ymhlith y wasg dros y misoedd diwethaf, ond roedd yn rhaid i ni sicrhau fod y cytundeb yma’n cael ei wneud yn iawn a bod gan Andy y dogfennau cywir yn eu lle cyn arwyddo.
“Wedi dweud hynny, mae gan Andy enw da ac rwy’n ffyddiog fod yr holl aros yn mynd i ddwyn ffrwyth.”