Gohebydd clwb Abertawe, Guto Llewelyn sy’n crynhoi’r awyrgylch ryfedd ar y Liberty wrth i Abertawe herio Aston Villa yn fuan iawn ar ôl i’r newyddion dorri am farwolaeth Gary Speed.
Amser cinio ddydd Sul roeddwn tu allan i Stadwm Liberty Abertawe pan dderbyniais alwad ffôn echrydus yn fy hysbysu bod hyfforddwr Cymru, Gary Speed, wedi marw.
Lledodd y newyddion annisgwyl yn gyflym ymhlith cefnogwyr Abertawe a oedd ar eu ffordd i wylio’r Elyrch yn erbyn Aston Villa. Roedd yn amhosib canolbwyntio ar y gêm wrth i’r chwaraewyr gynhesu ar y cae.
Yn 42 mlwydd oed bu farw un o arwyr y gamp yng Nghymru – dyn a oedd wedi cynrychioli ein gwlad gyda balchder aruthrol, ac a oedd yn dechrau llwyddo gyda’r genhedlaeth bresennol o chwaraewyr Cymru.
Penderfynwyd parhau â’r gêm serch y trychineb. Cefnogwyd y penderfyniad gan Ashley Williams a Neil Taylor, chwaraewyr Abertawe oedd hefyd yn aelodau cyson o garfannau rhyngwladol Speed.
Yn ogystal â Williams a Taylor, roedd Joe Allen yn dechrau i Abertawe gyda’r amddiffynnwr Cymreig James Collins yn dechrau i Villa – dau arall oedd yn hen gyfarwydd â Speed trwy eu profiadau gyda’r tîm cenedlaethol.
Gwelwyd golygfeydd teimladwy dros ben yn Stadiwm Liberty wrth i funud o dawelwch er cof am Speed gael ei droi’n funud o gymeradwyaeth a barchwyd gan gefnogwyr Abertawe ac Aston Villa.
Roedd yn funud llawer rhy emosiynol i gôl-geidwad Villa, Shay Given. Llifodd dagrau fel rhaeadrau o lygaid y Gwyddel a oedd yn ffrind agos i Speed. Bu’n chwarae gyda chyn-gapten Cymru am chwe blynedd yn Newcastle.
Dau dîm – dwy ffordd o chwarae
Dechreuodd y gêm yn araf gyda’r Elyrch yn cadw’r meddiant ond yn methu creu cyfleoedd.
Roedd Aston Villa wedi canolbwyntio’n llwyr ar sefyll yn gadarn yn erbyn asgellwyr cyffrous Abertawe, Nathan Dyer a Scott Sinclair.
Dydd Llun diwetha’ cafodd chwaraewyr Villa a’u hyfforddwr, Alex McLeish, eu beirniadu’n llym am berfformiad negyddol y tîm yn erbyn Spurs. Roedd y tactegau negyddol yn amlwg ar gae’r Liberty hefyd. Derbyniodd chwaraewr canol cae ifanc Villa, Febian Delph, garden felen am dacl wael ar Leon Britton wedi dim ond tair munud.
Dyma oedd patrwm yr hanner cyntaf – Abertawe’n pasio’r bêl ond yn methu creu llawer tra bod chwaraewyr Aston Villa yn troseddu’n ddidostur.
Roedd safon taclo’r gwŷr o Firmingham yn warthus, yn enwedig rhai megis y cefnwyr Alan Hutton a Stephen Warnock a oedd yn dangos dim gofal gyda rhai taclau peryglus. Nid oedd yn syndod i unrhyw un pan adawodd un o chwaraewyr Abertawe’r cae, Angel Rangel, gydag anaf i’w bigwrn.
Llenwyd y bwlch ar ochr dde’r amddiffyn gan Jazz Richard, cefnwr ifanc a oedd yn chwarae yn y brif Gynghrair am y tro cyntaf erioed.
Cyfleoedd i Villa
Cyn i Rangel adael y cae roedd bron iawn i Gabriel Agbonlahor sgorio i Aston Villa. Ergydiodd yr ymosodwr yn y cwrt cosbi, ond llwyddodd Michel Vorm i’w rwystro gyda’i droed dde, serch gwyriad anffodus o goes Rangel.
Yn fuan ar ôl cyfle Agbonlahor chwipiodd Delph gic gornel isel tuag at Charles N’Zogbia. Sodlodd y Ffrancwr y bêl tuag at y postyn cefn ond ni allai Richard Dunne ei phenio i mewn i’r rhwyd.
Ychydig cyn hanner amser roedd Abertawe’n ffodus iawn i beidio ag ildio cic o’r smotyn. Peniodd Emile Heskey y bêl tuag at gôl Vorm ond cododd Williams ei law heb reswm ac fe gafodd gyffyrddiad. Ni welodd y dyfarnwr y digwyddiad, yn ffodus dros ben i’r amddiffynnwr.
Bregus
Ymddangosai’r Elyrch llawer mwy bregus yn ystod yr ail hanner. Roedd taclo ffyrnig Villa wedi cael effaith amlwg ar feddylfryd Abertawe.
Diflannodd pasio pert Abertawe wrth i Villa wasgu pob chwaraewr. Danny Graham oedd yr ail chwaraewr i’r tîm cartref golli oherwydd taclo Villa, daeth Leroy Lita i’r cae yn ei le.
Cyn i Lita fedru dylanwadu ar y gêm ergydiodd Agbonlahor unwaith eto. Tarodd y bêl gyda chymaint o bŵer nes i Vorm fethu dal y bêl yn iawn ac roedd bron iawn â disgyn o dan y trawsbren. Dihangfa arall i Abertawe yn erbyn tîm Villa oedd yn dechrau edrych yn fygythiol.
Cafodd Lita gyfle i sgorio pan drodd yn gyflym gyda James Collins yn ei gefn, ond ergydiodd ychydig i’r dde o gôl Given. Dyma oedd cyfle ola’r Elyrch i ennill gêm ddiflas.
Ni welwyd clasur ar gae’r Liberty ddydd Sul ac roedd 0-0 yn adlewyrchiad teg o berfformiadau’r ddau dîm.
Roedd Abertawe’n ddiddychymyg ac yn nerfus am gyfnodau hir. Bu bron iawn i dactegau negyddol Villa lwyddo, ond ni fedrodd Agbonlahor (y chwaraewr gorau ar y cae) fanteisio ar ei ddau gyfle.
Yng nghyd-destun trist y diwrnod roedd yn amhosib meddwl gormod am y digwyddiadau ar y cae na’r canlyniad. Roedd yr awyrgylch tawel yn y stadiwm yn adlewyrchiad o’r syndod a’r tristwch oedd yn gysylltiedig â’r gêm.