Scott Williams
Mae Cymru am brofi eu bod yn gallu curo tîm o’r safon uchaf gan drechu Awstralia ddydd Sadwrn, yn ôl un o chwaraewyr ifanc y garfan.
Methodd tîm Warren Gatland â threchu’r Wallabies i gipio’r trydydd safle yng Nghwpan y Byd fis diwethaf, ond mae’r crysau cochion yn cael cyfle i brofi eu hunain unwaith eto yn erbyn yr un tîm mewn gêm brawf penwythnos yma yn Stadiwm y Mileniwm.
Bydd y ddwy wlad yn cystadlu am Dlws James Bevan ddydd Sadwrn, ac un o’r chwaraewyr ifanc cyffrous sy’n gobeithio creu marc yw canolwr y Scarlets Scott Williams.
“Yn amlwg rydym ni eisiau cael un yn ôl arnyn nhw” meddai’r gŵr ifanc o Gastell Newydd Emlyn.
“Roedd hi’n siom colli yn y rownd gynderfynol [yn erbyn Ffrainc] ac fe wnaethom ni drio’n gorau yn erbyn Awstralia yn y gêm ganlynol, ond nhw enillodd o drwch blewyn yn y diwedd.”
“Mae’r bois i gyd yn edrych ymlaen at y gêm, i brofi pawb ein bod ni’n gallu curo tîm o’r safon uchaf.”
Agos
Roedd Scott Williams yn un o’r chwaraewyr a ddaliodd lygad y byd wrth i dîm Cymru greu argraff fawr gyda’u rhediad yng Nghwpan y Byd.
Sgoriodd y canolwr bedwar cais yn ystod y gystadleuaeth, gan ei wneud yn brif sgoriwr carfan Cymru yn y twrnament.
Mae’r Cymry wedi dod o fewn 10 pwynt i dri thîm mwyaf hemisffer y De bedair gwaith allan o’r bum gêm ddiwethaf yn eu herbyn – y gêm honno yn erbyn Awstralia oedd y diweddaraf, gyda’r Wallabies yn fuddugol o 20 pwynt i 18.
Mae Williams yn dal i gredu fod gan y garfan ddigon o dalent i ennill yn erbyn y timau hyn.
“Rydym ni wedi dod yn agos ar nifer o achlysuron, ond mae gennym ni ddigon o dalent o fewn y garfan i ennill yn gemau hyn – yr unig beth sydd angen nawr yw’r gallu i ddal ymlaen hyd at y diwedd.“
Bydd hi’n ddiddorol gweld beth fydd yn digwydd ddydd Sadwrn”
Ennill i Shane
Yn ôl Scott Williams mae un cymhelliad arall i garfan Cymru i ennill y gêm ddydd Sadwrn, sef dathlu diwedd gyrfa ryngwladol Shane Williams – prif sgoriwr geisiadau yn hanes rygbi Cymru.
“Byddaf yn hapus i fod yn rhan o’r garfan o 22 ar gyfer gêm olaf Shane” meddai wrth Golwg360.
“Roedd Shane yn un o fy arwyr i tra roeddwn yn tyfu fyny, ac yng nghefn meddwl y bois fydd yr awydd i ffarwelio â Shane gyda buddugoliaeth iddo.”
Gohebydd: Owain Gruffudd